Neidio i'r prif gynnwy

A all gwyddor ymddygiad wella a diogelu iechyd cyhoeddus?

Cyhoeddwyd: 10 Tachwedd 2022

Pam mae rhai polisïau, gwasanaethau neu fathau o gyfathrebu yn gweithio, gan wella neu ddiogelu iechyd a llesiant pobl, ond mae eraill yn pylu, neu'n waeth na hynny nid ydynt byth yn dechrau disgleirio? Mae'r cwestiwn hwn yn wynebu ymarferwyr a gwneuthurwyr polisi bron yn ddyddiol. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Robert West, Athro Emeritws yng Ngholeg Prifysgol Llundain wedi cyhoeddi canllaw newydd i wneuthurwyr polisi ac ymarferwyr yn y llywodraeth ac ym maes iechyd cyhoeddus sy'n rhoi manylion ynghylch sut y gall mynd ati i ddefnyddio gwyddor ymddygiad i ddeall ymddygiad pobl yn well arwain at bolisïau, gwasanaethau a chyfathrebu mwy effeithiol.  

Meddai Ashley Gould, Cyfarwyddwr Rhaglen, Uned Gwyddor Ymddygiad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Mae gwyddor ymddygiad yn cael ei defnyddio'n gynyddol i wella ein dealltwriaeth o sut y mae'r cymysgedd o ffactorau gwybyddol, seicolegol, cymdeithasol ac amgylcheddol yn effeithio ar sut y mae unigolion a grwpiau poblogaeth a phroffesiynol yn ymddwyn. Yn wir, mae'n cael ei dderbyn yn gyflym fel elfen hanfodol wrth gynllunio gweithgarwch a fydd yn llwyddiannus o ran gwella a diogelu iechyd a llesiant ehangach. 

“Os gallwn ddeall yn well sut a pham mae unigolion a sefydliadau'n gweithredu mewn ffyrdd penodol, yn hytrach na dibynnu ar ragdybiaethau ynghylch sut y dylent weithredu – gallwn sicrhau bod polisïau, gwasanaethau a chyfathrebu'n adlewyrchu anghenion ac ymddygiad go iawn.  

“Mae hyn yn arwain at fwy o effaith drwy gynllunio a chyflawni sydd wedi'u teilwra'n fwy penodol ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth.”  

Mae'r canllaw hwn yn nodi er bod timau gwyddor ymddygiad yn cael eu sefydlu'n gynyddol mewn sefydliadau, mae'r rhan fwyaf o benderfyniadau'n dal i gael eu gwneud drwy ddefnyddio rhagdybiaethau ‘synnwyr cyffredin’ ac yn aml gall hyn arwain at weithgareddau sydd ag effeithiolrwydd cyfyngedig.  

Gall treulio amser ymlaen llaw yn y broses gynllunio yn gofyn pwy yn union yw'r gynulleidfa, pa ‘gamau gweithredu gweladwy’ yr hoffech iddynt eu gwneud, gyda rhesymeg glir, ac yna deall yr hyn fyddai'n galluogi hynny orau, helpu i deilwra ymyriadau sy'n fwyaf tebygol o arwain at yr ymddygiad targed. 

Meddai'r Athro Robert West, Athro Emeritws yng Ngholeg Prifysgol Llundain:  

“Mae cydweithio â'r Uned Gwyddor Ymddygiad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu canllaw a fydd, yn fy marn i, yn amhrisiadwy i wneuthurwyr polisi ac ymarferwyr yng Nghymru, ac ymhell y tu hwnt i'w ffiniau hefyd.”   

Mae gwyddor ymddygiad wedi'i defnyddio'n helaeth ac yn llwyddiannus yn yr ymateb ar y cyd i bandemig y Coronafeirws.  Roedd deall yr hyn a oedd yn rhwystr i wahanol grwpiau, ac felly sut i annog mabwysiadu ymddygiad amddiffynnol personol yn eang, fel gorchuddio wynebau a hunanynysu pan yn symptomatig, wedi helpu i leihau trosglwyddiad y feirws.  

Mae ‘Gwella Llesiant: Canllaw i ddefnyddio gwyddor ymddygiad mewn polisi ac ymarfer’, yn ceisio helpu gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr yn y llywodraeth ac ym maes iechyd cyhoeddus i wneud defnydd effeithiol o wyddor ymddygiad yn eu gwaith. Mae'n gwneud hyn drwy ddarparu: fframwaith ar gyfer ymgorffori gwyddor ymddygiad wrth wneud penderfyniadau, dealltwriaeth sylfaenol o egwyddorion gwyddor ymddygiad, a chanllaw cam wrth gam i ddatblygu, addasu neu ddewis ymyriadau newid ymddygiad. Mae hefyd yn cynnwys offer ac adnoddau i helpu gyda datblygu ymyriadau ac yn awgrymu ffynonellau priodol o arbenigedd gwyddor ymddygiad.