Neidio i'r prif gynnwy

Adran 4 - Sgrinio ar gyfer clefyd y crymangelloedd a thalasaemia yn ystod beichiogrwydd 

 

 

 

Mae’r adran hon yn esbonio’r profion y gallwch eu cael yn ystod beichiogrwydd i gael gwybod a ydych yn gludwr clefyd y crymangelloedd neu thalasaemia. Os ydych yn gludwr, bydd prawf yn cael ei gynnig i dad eich babi hefyd. Mae nifer o fathau gwahanol o gludwr.
 

Mae'r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y profion sgrinio a gynigir i chi yn ystod beichiogrwydd i chi a'ch babi.

 

Beth yw anhwylderau’r crymangelloedd a beta thalasaemia difrifol?

Mae anhwylderau’r crymangelloedd a beta thalasaemia difrifol yn gyflyrau gwaed etifeddol difrifol. Maent yn effeithio ar yr haemoglobin yn y celloedd gwaed coch. Mae haemoglobin yn bwysig am ei fod yn cludo ocsigen o amgylch y corff. Bydd angen gofal arbenigol ar bobl sydd â’r cyflyrau hyn drwy gydol eu hoes. Mae anhwylderau haemoglobin eraill, llai cyffredin hefyd. Nid yw llawer o’r rhain mor ddifrifol.
 

Anhwylderau’r crymangelloedd

Gall pobl ag anhwylder y crymangelloedd:

  • gael niwed i feinweoedd ac organau a gwahanol raddau o symptomau
  • cael pyliau o boen ddifrifol lle mae angen iddynt aros yn yr ysbyty, a
  • bod yn fwy agored i heintiau difrifol.
     

Beta thalasaemia difrifol

Mae pobl â beta thalasaemia difrifol ag:

  • anemia difrifol a bydd angen trallwysiadau gwaed arnynt bob pedair i chwe wythnos, yn ogystal â thriniaethau eraill.
     

Sut yr etifeddir yr anhwylderau?

Anhwylderau genetig yw clefyd y crymangelloedd a thalasaemia. Maent yn cael eu trosglwyddo mewn teuluoedd. Os mai dim ond un rhiant (naill ai’r fam neu’r tad) sydd â genyn y crymangelloedd neu thalasaemia, mae’n annhebygol iawn y bydd gan eu babi anhwylder y crymangelloedd neu thalasaemia difrifol. Ond gall eu babi fod yn gludwr. Mae hyn yn golygu, fel y fam neu’r tad, y bydd gan y babi genyn y crymangelloedd neu thalasaemia, ond nid yw’r genyn yn achosi problemau fel arfer.

Os yw’r ddau riant yn cludo genyn y crymangelloedd neu thalasaemia, mae siawns 25% (un mewn pedwar) y bydd gan y babi anhwylder y crymangelloedd neu beta thalasaemia difrifol.
 

Pwy all fod yn gludwr y crymangelloedd neu thalasaemia?

Gall unrhyw un fod yn gludwr y crymangelloedd neu thalasaemia. Mae’n fwy tebygol y bydd grwpiau penodol o bobl yn cludo’r crymangelloedd neu thalasaemia.

Mae’n fwy tebygol y byddwch yn gludwr os yw eich teulu, ni waeth faint o genhedloedd yn ôl, yn dod o ardal Môr y Canoldir, Affrica, y Caribî, y Dwyrain Canol, De Asia, De America neu Dde-ddwyrain Asia.
 

Y prawf

Gweler ‘I bwy y cynigir y prawf?’ i weld a ydych yn y grŵp hwn. Fel rhan o’ch gofal cyn geni, byddwch yn cael cynnig prawf gwaed arferol (cyfrif gwaed llawn) i wirio’ch lefel haemoglobin i weld a ydych yn anemig.Prawf gwaed yw’r prawf y gellir ei wneud gyda phrofion gwaed eraill, fel arfer yn gynnar yn ystod beichiogrwydd. Dim ond i fenywod sy’n fwy tebygol o gludo’r crymangelloedd neu thalasaemia y cynigir y prawf.

Hefyd, gall y cyfrif gwaed llawn ganfod rhai mathau o thalasaemia.

Bydd y fydwraig yn gofyn i chi a ydych am gael prawf sgrinio thalasaemia fel rhan o’r prawf cyfrif gwaed llawn. Os yw’ch prawf cyfrif gwaed llawn yn awgrymu ei bod yn bosibl eich bod yn cludo thalasaemia, gall y labordy hefyd sgrinio’ch gwaed ar gyfer anhwylderau’r crymangelloedd a thalasaemia.
 

I bwy y cynigir y prawf?

  • Bydd eich bydwraig yn gofyn i chi o ble mae eich teulu yn hanu. Dylai’r prawf gael ei gynnig i chi yn y sefyllfaoedd canlynol:
  • rydych chi neu dad biolegol eich babi â hanes teulu o glefyd y crymangelloedd neu thalasaemi
  • rydych chi, tad biolegol eich babi, unrhyw un yn nheulu’r tad biolegol neu’ch teulu chi, ni waeth faint o genhedloedd yn ôl, yn dod o unrhyw le yn y byd heblaw am y DU neu Iwerddon, neu
  • nid ydych chi na thad biolegol eich babi yn gwybod eich hanes teulu – er enghraifft, mabwysiadwyd chi neu dad biolegol eich babi.

Os ydych chi a thad eich babi yn gludwyr ‘mathau pwysig’ o grymangelloedd neu thalasaemia, gallai eich babi etifeddu anhwylder y crymangelloedd neu thalasaemia difrifol.

Yn dibynnu ar eich ateb i'r cwestiwn ynghylch o ble mae eich teulu yn hanu, byddwch yn cael cynnig naill ai: 

  1. Prawf cyfrif gwaed llawn a rhagor o brofion os oes angen
  2. Prawf cyfrif gwaed llawn a phrawf sgrinio ar gyfer clefyd y crymangelloedd a thalasaemia

 

Beth yw manteision cael prawf sgrinio ar gyfer clefyd y crymangelloedd a thalasaemia yn ystod beichiogrwydd?

Os ydych yn gludwr clefyd y crymangelloedd neu thalasaemia, mae’n bwysig gwybod fel y gallwch gael y math cywir o ofal yn ystod eich beichiogrwydd.

Gall menywod sy’n gwybod bod eu babi yn fwy tebygol o etifeddu anhwylder y crymangelloedd neu thalasaemia difrifol gael prawf mewnwthiol i gael gwybod a oes gan eu babi’r cyflwr. Gellid gwneud hyn naill ai drwy brawf samplu filws corionig neu amniosentesis. Os oes gan eich babi’r cyflwr, gallwch benderfynu a ddylid paratoi ar gyfer genedigaeth eich babi gydag un o’r cyflyrau hyn neu roi terfyn ar eich beichiogrwydd.
 

Beth yw anfanteision cael prawf sgrinio ar gyfer clefyd y crymangelloedd a thalasaemia yn ystod beichiogrwydd?

Gall cael y prawf eich gwneud yn bryderus os cewch wybod eich bod yn cludo clefyd y crymangelloedd neu thalasaemia. Bydd rhai menywod yn cael cynnig prawf mewnwthiol i weld a oes gan eu babi’r cyflwr. Oherwydd y gall y profion mewnwthiol achosi camesgoriad, mae hwn yn benderfyniad anodd i lawer o fenywod. Mae’n bosibl y bydd rhai menywod yn dymuno nad oeddent wedi cael y prawf sgrinio am ei bod yn anodd gwneud y penderfyniad hwn.
 

A ddylwn gael y prawf sgrinio ar gyfer clefyd y crymangelloedd a thalasaemia?

Dim ond chi all benderfynu a ddylid cael y prawf ai peidio. Mae rhai menywod am gael gwybod a oes gan eu babi glefyd y crymangelloedd neu thalasaemia, ac nid yw eraill am wybod hynny. Gall cael y prawf achosi pryder gan y gall y canlyniad olygu y cynigir rhagor o brofion i chi.
 

Beth y bydd y canlyniadau’n ei ddweud wrthyf?

Os yw’r canlyniad yn dangos nad ydych yn gludwr, mae’n annhebygol iawn y gallai’ch babi fod ag anhwylder y crymangelloedd neu thalasaemia difrifol. Er bod y prawf yn gywir iawn, gall nifer bach o ganlyniadau fod yn aneglur. Os yw hyn yn digwydd, cynigir prawf arall i chi.

Os yw’r prawf yn dangos eich bod yn gludwr neu’n gludwr posibl, bydd modd i chi siarad â bydwraig arbenigol neu arbenigwr genetig a bydd yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i chi. Mae’n bosibl y bydd yn awgrymu eich bod yn gofyn i dad biolegol eich babi gael prawf gwaed i weld a yw’n gludwr. Os yw canlyniad ei brawf yn dangos nad yw’n gludwr, mae’n annhebygol iawn y bydd gan eich babi anhwylder y crymangelloedd neu thalasaemia difrifol.

Os ydych yn gludwr neu os oes gennych anhwylder y crymangelloedd neu thalasaemia, caiff profion eu cynnig i dad eich babi hefyd.

Os yw tad eich babi yn gludwr neu os oes ganddo anhwylder y crymangelloedd neu os yw’n gwrthod profion, cewch gynnig cyngor arbenigol ar y cyflwr a phrofion mewnwthiol (gweler adran 7).
 

Beth os yw’r tad biolegol hefyd yn gludwr?

Os yw’r prawf yn dangos bod tad eich babi hefyd yn gludwr, mae siawns 25% (un mewn pedwar) y gallai’ch babi fod ag anhwylder y crymangelloedd neu thalasaemia difrifol. Yna gallwch benderfynu a ydych am gael rhagor o brofion i weld a oes gan eich babi’r cyflwr. Profion mewnwthiol yw’r profion hyn (gweler adran 7). Os byddwch yn dewis peidio â chael rhagor o brofion, gall eich babi gael prawf pan gaiff ei eni ar gyfer anhwylderau’r crymangelloedd neu ar gyfer thalasaemia difrifol. Mae hyn yn golygu os oes gan eich babi’r cyflwr, gall triniaeth ddechrau’n gynnar.
 

Beth yw’r canlyniadau posibl o brofion mewnwthiol? 

Os cewch brawf samplu filws corionig neu amniosentesis, gall y canlyniad ddangos:

  • nad yw’r cyflwr hwn gan eich babi

  • bod gan eich babi anhwylder y crymangelloedd neu thalasaemia difrifol. Yna gallwch benderfynu paratoi ar gyfer genedigaeth babi sydd ag anhwylder y crymangelloedd neu thalasaemia difrifol neu roi terfyn ar eich beichiogrwydd.

Gall prawf samplu filws corionig ac amniosentesis ganfod newidiadau cromosomaidd eraill. Bydd y fydwraig arbenigol neu’r cwnselydd genetig yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi.

Byddwch yn cael cynnig prawf sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig ar ôl i’ch babi gael ei eni. Bydd y prawf hwn hefyd yn chwilio am anhwylder y crymangelloedd.