Neidio i'r prif gynnwy

Hepatitis B Positif

Mae’r daflen yma i chi os ydych chi’n feichiog ac rydych chi wedi cael prawf am hepatitis B ac mae’r canlyniad yn awgrymu bod y feirws hepatitis B arnoch chi. Mae hynny’n golygu eich bod chi wedi cael eich heintio yn y gorffennol a’ch bod chi nawr yn cludo (cario) feirws hepatitis B.

Rydyn ni angen tynnu sampl arall o waed gennych chi er mwyn gwneud yn siŵr bod y canlyniad yma’n gywir. Nid yw’n debygol iawn y bydd yr ail ganlyniad yn wahanol i’r un cyntaf. Ar yr un pryd, rydyn ni’n awyddus i wneud prawf gwaed arall a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth i ni am unrhyw driniaeth byddwch chi neu’ch babi ei hangen efallai. Byddwn ni’n anfon canlyniad y prawf hwnnw i’r arbenigwr cyn i chi gael apwyntiad.

Mae’r daflen yma’n cynnig gwybodaeth am:

  • fod yn hepatitis B-positif;
  • a ffyrdd y gallwch chi rwystro’ch babi rhag cael ei heintio â’r feirws.

Cyhoeddi Ebrill 2020

Cynnwys

― Beth yw ystyr canlyniad fy mhrawf gwaed?
Beth yw hepatitis B?
― Sut wnes i ddal hepatitis B?
― Beth fydd yn digwydd nesaf?
― Pa driniaeth sydd ar gael i fy mabi?
― Pwy sydd angen gwybod fy mod i’n hepatitis B-positif?
― Ble gallaf i gael mwy o wybodaeth?

Beth yw ystyr canlyniad fy mhrawf gwaed?

Mae canlyniad eich prawf gwaed yn golygu eich bod chi ar ryw adeg yn eich oes wedi dal y feirws hepatitis B.

Nid yw’n debygol y bydd eich babi’n dal y feirws yn ystod eich beichiogrwydd, ond mae siawns uchel y gallech chi drosglwyddo’r feirws i’ch babi yn ystod y geni.

Beth yw hepatitis B?

Mae hepatitis B yn feirws sy’n ymosod ar yr afu (iau). Nid yw llawer o’r bobl sy’n cludo hepatitis B yn cael unrhyw symptomau. Efallai nad ydyn nhw’n gwybod bod y feirws arnyn nhw tan fyddan nhw’n cael prawf sgrinio. Ni fydd rhai pobl sy’n dal y feirws byth yn cael gwared â’r feirws o’u cyrff. Mae’r feirws yn aros yn eu cyrff, er eu bod nhw’n ymddangos yn iach.

Hyd yn oed os nad ydych chi’n cael unrhyw symptomau, gallwch chi o hyd drosglwyddo’r feirws i bobl eraill.

Sut wnes i ddal hepatitis B?

Dim ond yn y ffyrdd sy’n dilyn y gallwch chi drosglwyddo’r feirws i rywun arall: 

  • os bydd eich gwaed chi’n dod i gysylltiad â’u gwaed nhw;
  • os byddwch chi’n cael rhyw gyda rhywun, heb ddefnyddio dulliau amddiffyn;
  •  neu os byddwch chi’n ei drosglwyddo i’ch babi yn ystod y geni.

Nid yw’n bosibl i chi drosglwyddo’r feirws i bobl eraill drwy gysylltiadau cymdeithasol arferol fel rhannu lleiniau, rhannu cyllyll a ffyrc, bod yng nghwmni eich ffrindiau a’ch teulu, ac wrth fwyta prydau bwyd gyda’ch gilydd.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwch chi’n cael cynnig o apwyntiad gydag arbenigwr yn fuan ar ôl cael eich diagnosis. Bydd yr arbenigwr yn eich cynghori sut mae rhwystro eich babi rhag cael haint a bydd yn gwneud profion i asesu a oes angen triniaeth arnoch chi. Mae hepatitis B yn gallu effeithio ar yr afu ac mae rhai pobl angen triniaeth i rwystro niwed i’r afu.

Pa driniaeth sydd ar gael i fy mabi?

Mae triniaeth ar gael sy’n amddiffyn eich babi rhag cael ei heintio. Byddwn ni’n gofyn i chi roi eich caniatâd i’ch babi gael brechlyn diogel ac effeithiol a allai ei amddiffyn rhag cludo’r feirws a rhwystro problemau rhag datblygu yn ei afu. Os bydd canlyniad eich prawf gwaed yn dangos bod y feirws hepatitis B sydd arnoch chi’n heintus iawn, byddwn ni’n cynnig i’ch babi gael pigiad arall ar yr un pryd i’w amddiffyn yn well rhag cael y feirws.

Heb driniaeth mae’n debygol iawn y byddwch chi’n trosglwyddo’r feirws i’ch babi yn ystod y geni. Os na fydd eich babi’n cael triniaeth, mae 9 siawns o bob 10 (90%) y bydd eich babi’n dal y feirws ac yn cludo hepatitis B am weddill ei oes. Bydd mewn perygl o gael problemau difrifol fel niwed i’r afu’n nes ymlaen yn ei oes.

Mae pob babi’n cael cynnig o frechiad sy’n ei amddiffyn rhag cael hepatitis B fel un o’r set arferol o frechiadau sydd ar gael i fabanod. Bydd babanod pob mam sy’n hepatitis B�positif angen chwe brechiad i gael yr amddiffyniad gorau.

  • Dylai’r babi gael y brechiad cyntaf cyn pen 24 awr i’r geni.

Bydd eich babi angen pum brechiad arall. Mae’r rhain yn cael eu rhoi pan mae’ch babi’n:

  •  fis oed;
  • yn ddeufis oed; yn dri mis oed, yn bedwar mis oed (fel rhan o’r set arferol o frechiadau);
  •  a rhwng 12 ac 13 mis oed.

Mae’n bwysig iawn fod eich babi’n cael y cwrs llawn o frechiadau, er mwyn rhoi’r amddiffyniad gorau un iddo.

Dylech chi gael gwahoddiad i ddod â’ch babi i gael y brechiadau yma. Os na fyddwch chi’n cael gwahoddiadau, holwch eich meddyg neu ymwelydd iechyd am y brechiadau y dylai’ch babi eu cael.

Ar ôl i’ch babi gwblhau’r cwrs o frechiadau bydd y meddyg yn awyddus i’r babi gael prawf gwaed. Pwrpas y prawf gwaed yw gwneud yn siŵr bod y brechiadau wedi bod yn llwyddiannus a bod eich babi'n rhydd rhag yr haint.

Sut gallaf i aros yn iach er bod hepatitis B arnaf i?

Gall y pethau syml sy’n dilyn eich helpu chi i aros yn iach:

  • Peidiwch ag yfed alcohol – fe allai niweidio eich afu.
  • Dywedwch wrth eich meddyg eich bod chi’n cludo hepatitis B, a holwch am unrhyw driniaeth neu brofion a allai helpu.
  • Holwch y meddyg cyn cymryd unrhyw foddion, hyd yn oed meddyginiaethau llysieuol neu rai y gallwch chi eu prynu heb bresgripsiwn.
  • Peidiwch byth â chwistrellu cyffuriau. Gallai hynny roi dau fath arall o haint hepatitis (hepatitis C a D) i chi sydd hefyd yn gallu niweidio eich afu. Os ydych chi angen help i stopio defnyddio cyffuriau, ewch i ganolfan i’r rhai sy’n camddefnyddio cyffuriau i ofyn am help.

Pwy sydd angen gwybod fy mod i’n hepatitis B-positif?

Er mwyn i chi a’ch babi gael y gofal gorau, bydd angen i ni gynnwys arbenigwyr eraill. Cyn cynnwys yr arbenigwyr yma yn eich gofal, bydd eich bydwraig yn gofyn a ydych chi’n fodlon iddyn nhw gael gwybodaeth amdanoch chi.

Gan fod posibilrwydd o drosglwyddo’r feirws drwy gael rhyw heb ddefnyddio dulliau amddiffyn, rydyn ni’n cynghori y dylai’ch partner gael prawf sgrinio am hepatitis B. Efallai fod eich partner angen brechiad rhag cael y feirws. Gall eich partner fynd i feddygfa ei feddyg teulu neu i glinig cenhedlol-wrinol (clinig GUM) i ofyn am brawf hepatitis B.

Ble gallaf i gael mwy o wybodaeth?

Gallwch chi gael mwy o wybodaeth am hepatitis B a phrofion cyn-geni gan fydwraig yr ysbyty sy’n arbenigo ar sgrinio cyn-geni, neu gan y meddyg yn yr ysbyty (yr obstetregydd).

Gallwch chi hefyd gysylltu â:

The British Liver Trust Ffôn: 01425 481320 (10am i 2:45pm dydd Llun i ddydd Gwener)

Gwefan: www.britishlivertrust.org.uk