Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniad prawf gwaed: rydych yn gludydd crymangelloedd

Dylech ddarllen y wybodaeth hon oherwydd bod canlyniad eich prawf gwaed sgrinio cyn geni ar gyfer anhwylder y crymangelloedd a thalasaemia (SCT) yn dangos eich bod yn gludydd crymangelloedd. Mae rhai pobl yn galw hyn yn ‘bod â nodwedd neu dueddiad’. Mae gwybodaeth yn y daflen yma am fod yn gludydd, a beth mae hyn yn ei olygu i chi ac i’ch teulu.


Cyhoeddi Ionawr 2022, Fersiwn 2.
 

Cynnwys

― Bod yn gludydd
Problemau iechyd prin
Eich babi
― Y siawns o etifeddu cyflwr difrifol
― Cyflyrau haemoglobin a etifeddir
― Anhwylder y crymangelloedd
― Y camau a'r dewisiadau nesaf
― Sgrinio babanod
― Aelodau eraill o'r teulu
― Beichiogrwydd yn y dyfodol
― Sut y mae canlyniad eich prawf yn cael ei ysgrifennu
― Rhagor o wybodaeth

 

 


 

Bod yn gludydd

Nid yw bod yn gludydd yn eich gwneud yn sâl. Ni fyddwch yn datblygu anhwylder y crymangelloedd ond mae'n bwysig gwybod y gallwch drosglwyddo'r genyn crymangelloedd i'ch babi. Os yw tad biolegol y babi yn gludydd hefyd, gyda'ch gilydd gallech gael babi â chyflwr etifeddol difrifol. Mae'r siawns yr un peth ym mhob beichiogrwydd.

Haemoglobin yw'r sylwedd mewn celloedd gwaed coch sy'n cludo ocsigen o amgylch eich corff. Mae bod yn gludydd yn golygu eich bod wedi etifeddu un genyn haemoglobin arferol a elwir yn haemoglobin A gan un rhiant biolegol ac un genyn anhwylder y crymangelloedd gan eich rhiant biolegol arall. Gan eich bod wedi etifeddu’r math arferol A o haemoglobin oddi wrth un o’ch rhieni, rydych yn iach.

Os oes gan dad biolegol y babi enyn haemoglobin anarferol mae'n bwysig nodi'r math o enyn a'r siawns y bydd eich babi yn etifeddu cyflwr haemoglobin difrifol. Am y rheswm hwn, byddwn hefyd yn gwahodd y tad biolegol i gael ei sgrinio. Bydd dim ond yn gwybod a yw'n cario genyn ar gyfer haemoglobin anarferol os yw'n cael prawf gwaed i wirio ei fath o haemoglobin.

Os bydd y prawf yn dangos bod y tad biolegol yn gludydd genyn haemoglobin anarferol byddwch yn cael cynnig cwnsela arbenigol ac, os oes angen, profion mewnwthiol.

Problemau iechyd prin

Mae achlysuron prin pan ddylech gymryd gofal ychwanegol oherwydd eich statws cludydd. Os oes angen anaesthetig cyffredinol arnoch, dylech ddweud wrth y staff meddygol eich bod yn gludydd crymangelloedd.

Mae hyn er mwyn iddynt allu sicrhau eich bod bob amser yn cael digon o ocsigen. Dylech wirio bod triniaeth feddygol lawn wrth gefn mewn unrhyw sefyllfa lle rydych yn cael anaesthetig cyffredinol, gan gynnwys ar gyfer triniaeth ddeintyddol.

Hefyd, os byddwch yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch chwaraeon dwys, dylech:

  • sicrhau eich bod yn yfed digon o hylifau;
  • osgoi blinder eithafol; a
  • sicrhewch nad ydych byth yn brin o ocsigen.

Dywedwch wrth eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os:

  • gwnaethoch feichiogi o ganlyniad i driniaeth ffrwythlondeb â sberm rhoddwr neu wy rhoddwr;
  • rydych wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn neu fôn-gelloedd; neu
  • rydych yn feichiog fel mam faeth.

Eich babi

Mae yna nifer o wahanol gyflyrau haemoglobin y gallai eich babi eu hetifeddu. Mae rhai’n fwy difrifol nag eraill. Mae math a difrifoldeb y cyflwr yn dibynnu ar y mathau o enyn haemoglobin sydd gennych chi a thad biolegol eich babi.

Y cyflwr mwyaf difrifol yw anhwylder y crymangelloedd. Mae angen gofal a thriniaeth arbenigol ar bobl sydd ag anhwylder y crymangelloedd drwy gydol eu bywydau.

Y siawns o etifeddu cyflwr difrifol

Mae un rhiant biolegol yn gludydd ond nid yw'r rhiant arall yn gludydd

Os oes gan dad biolegol eich babi ddau enyn haemoglobin arferol (AA), mae siawns 2 mewn 4 (50%) y bydd eich babi yn gludydd crymangelloedd (fel chi) a siawns 2 mewn 4 (50%) y bydd ganddo ddau enyn haemoglobin arferol (AA).

Gweler y diagram isod. Mae’r siawns yr un fath ym mhob beichiogrwydd ar gyfer y cwpl hwn.

Mae'r ddau riant biolegol yn gludwyr

Os yw tad biolegol y babi yn gludydd hefyd, mae siawns 1 mewn 4 (25%) y bydd eich babi yn etifeddu cyflwr haemoglobin. Bydd difrifoldeb y cyflwr yn dibynnu ar ba enynnau haemoglobin sy'n cael eu hetifeddu.

Mae hefyd siawns 2 mewn 4 (50%) y bydd eich babi yn gludydd (fel chi) a siawns 1 mewn 4 (25%) y bydd gan eich babi enynnau haemoglobin arferol (AA).

Gweler y diagram isod. Mae’r siawns yr un fath ym mhob beichiogrwydd ar gyfer y cwpl hwn.

Cyflyrau haemoglobin a etifeddir

Mae cyflyrau haemoglobin yn anhwylderau gwaed a etifeddir gan y ddau riant biolegol.

Mae nifer o gyflyrau haemoglobin, ond bydd y math o gyflwr y gallai eich babi ei etifeddu’n dibynnu ar y math o enynnau haemoglobin sydd gan y ddau riant biolegol. Mae rhai cyflyrau'n fwy difrifol nag eraill.

Yr enw ar un o'r cyflyrau mwyaf difrifol yw anhwylder y crymangelloedd. Mae gwahanol fathau o anhwylderau'r crymangelloedd, ond y math mwyaf difrifol yw anemia crymangelloedd (Hb SS), sy'n digwydd pan fydd y ddau riant biolegol yn gludwyr crymangelloedd.

Os yw un rhiant biolegol yn gludydd crymangelloedd, ac os oes gan y rhiant biolegol arall enyn haemoglobin anarferol fel thalasaemia beta neu haemoglobin C, gallai hyn achosi math gwahanol o anhwylder y crymangelloedd. Gall eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol drafod hyn gyda chi fel eich bod yn deall yn union pa gyflwr y gallai eich babi ei etifeddu a pha mor ddifrifol ydyw.

Bydd angen gofal a thriniaeth arbenigol ar bobl sydd ag anhwylder y crymangelloedd drwy gydol eu bywydau.

Anhwylder y crymangelloedd

Mae gan bobl ag anhwylder y crymangelloedd gelloedd gwaed coch sy'n gallu mynd yn ddi-siâp wrth iddynt ryddhau ocsigen o amgylch y corff. Gall hyn rwystro pibellau gwaed bach.

Mae pobl sydd ag anhwylder y crymangelloedd:

  • yn gallu cael pyliau o boenau drwg iawn;
  • yn gallu cael heintiau difrifol sy’n peryglu eu bywydau;
  • yn anemig fel arfer; ac
  • angen meddyginiaethau a phigiadau pan maen nhw’n blant a thrwy gydol eu bywydau, er mwyn rhwystro heintiau.

Y camau a'r dewisiadau nesaf

Os yw sgrinio yn dangos y gallai eich babi etifeddu cyflwr haemoglobin difrifol, byddwch yn cael cynnig cwnsela arbenigol a diagnosis cynenedigol.

Sgrinio Babanod

Mae pob babi yn cael cynnig prawf sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig bum diwrnod ar ôl ei enedigaeth. Bydd y prawf hwn yn sgrinio ar gyfer anhwylder y crymangelloedd.

Gallwch hefyd wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol eich bod yn gludydd anhwylder y crymangelloedd;
  • cysylltu â chanolfan arbenigol crymangelloedd a thalasaemia lle gallwch gael gwybodaeth a chyngor am ddim i’ch helpu i ddeall goblygiadau bod yn gludydd crymangelloedd; a’r
  • threfnu i unrhyw blant eraill sydd gennych gael eu profi os oes angen, gyda chymorth gan eich meddyg teulu neu'ch canolfan crymangelloedd a thalasaemia.

Aelodau eraill o'r teulu

Gan eich bod yn gludydd crymangelloedd, gallai aelodau eraill o’ch teulu biolegol fod yn gludwyr hefyd.

Rydym yn argymell eich bod yn siarad â'ch rhieni, brodyr, chwiorydd, ewythrod, modrybedd, cefndryd a chyfnitherod. Dylech eu hannog nhw i gael prawf cyn dechrau teulu a chyn cael rhagor o blant. Gall dangos y wybodaeth hon iddynt fod o gymorth.

Mae cael y prawf yr un mor bwysig i ddynion ag y mae i fenywod. Gall unrhyw un ofyn am brawf ar unrhyw adeg gan eu meddyg teulu neu gan ganolfan crymangelloedd a thalasaemia arbenigol.

Beichiogrwydd yn y dyfodol

Rydym yn argymell eich bod yn dweud wrth eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am eich statws cludydd mor gynnar â phosibl mewn unrhyw feichiogrwydd yn y dyfodol.

Mae'n bwysig profi tad biolegol y babi a chael eich atgyfeirio i gwnselydd arbenigol.

Sut y mae canlyniad eich prawf yn cael ei ysgrifennu

Mae eich canlyniad wedi'i ysgrifennu fel cludydd crymangelloedd neu Hb AS. Mae'r llythyren A yn cynrychioli eich genyn haemoglobin A arferol. Mae'r llythyren S yn cynrychioli eich genyn haemoglobin crymangelloedd

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan y cyrff yma:

https://111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/t/article/thalassaemia/

https://cavuhb.nhs.wales/our-services/laboratory-medicine/haematology/sickle-cell-and-thalassaemia/sickle-cell/

https://ukts.org/