Cymryd rhan yn y rhaglen sgrinio'r coluddyn bob dwy flynedd.
Symud o gwmpas fwy
- Mae ymarfer corff yn eich helpu i deimlo'n well a gall eich gwneud yn llai tebygol o gael clefyd difrifol.
- Ceisiwch wneud rhywbeth egniol am o leiaf 2.5 awr yr wythnos.
Yfed llai o alcohol
- Gall yfed alcohol gynyddu'r risg o gael clefyd y galon, canser a difrod i'r iau/afu.
- Er mwyn cadw'r risg yn isel, peidiwch ag yfed mwy nag 14 uned yr wythnos.
- Os ydych am yfed llai, ceisiwch gael sawl diwrnod di-ddiod mewn wythnos.
Bwyta'n iach
- Gall bwyta ffrwythau a llysiau helpu i leihau'r perygl o gael afiechydon difrifol fel canser a chlefyd y galon.
- Ceisiwch fwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd.
Peidiwch a smygu
- Bydd stopio smygu yn gwella'ch iechyd.
Pa symptomau ddylwn i wybod amdanynt?
- Gwaedu o'ch pen ol a/neu waed yn eich carthion.
- Newid parhaus, heb esboniad, yn eich arferion ty bach.
- Colli pwysau heb esboniad.
- Blinder mawr heb reswm amlwg.
- Poen neu lwmpyn yn eich bol.