Am beth y mae'r pecyn prawf sgrinio yn chwilio?
- Mae'r pecyn prawf sgrinio'n chiwlio am waed yn eich carthion (pw).
- Gall gwaed mewn carthion fod yn arwydd o ganser y coluddyn neu newidiadau eraill fel polypiaid (tyfiannau bach).
- Gan amlaf mae polypiaid yn ddiniwed ond gall rhai arwain at ganser y coluddyn. Mae'n hawdd tynnu'r rhan fwyaf o bolybiaid.
- Weithiau daw'r gwaed am fod y polyp wedi gwaedu.
- Gall fod rhesymau eraill dros y gwaed, fel haemorodiau (peils) neu rwygiadau bach yn y coluddyn.
- Nid yw'r pecyn prawf yn dweud wrthych a oes canser y coluddyn arnoch. Bydd y canlyniadau'n dweud a oes angen rhagor o brofion fel colonosgopi (rhoi camera i fyny'ch pen ol).
Beth y dylech ei wybod
- Eich dewis chi yw cymryd rhan yn y prawf sgrinio.
- Nid yw sgrinio'r coluddyn bob amser yn hollol gywir.
- Wrth sgrinio, efallai na wellir canser a does dim gwella ar rai mathau o ganser.
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Byddwn yn postio'ch canlyniadau o fewn pythefnos.
- Bydd canlyniadau y rhan fwyaf o bobl ddim yn angen rhagor o brofion.
- Os gwelwn waed yn eich sampl, cewch eich cyfeirio am asesiad gyda nyrs sgrinio.
- Byddwn yn cynnig rhagor o brofion a gall gynnwys colonosgopi.