Neidio i'r prif gynnwy

Am y rhaglen

Nod y rhaglen yw dysgu o ffactorau cyffredin sy’n cyfrannu at farwolaethau plant er mwyn lleihau marwolaethau plant y gellir eu hatal yng Nghymru.

Amcanion y rhaglen yw:

  • canfod a choladu data ar farwolaethau plant yng Nghymru a marwolaethau plant sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru
  • cynnal gwyliadwriaeth o farwolaethau plant gan gynnwys nodi a disgrifio patrymau ac achosion marwolaethau plant, gan gynnwys unrhyw dueddiadau
  • nodi ffactorau y gellir eu haddasu a all fod yn cyfrannu at farwolaethau plant yng Nghymru
  • nodi cyfleoedd i atal marwolaethau plant yn y dyfodol
  • rhannu'r canfyddiadau i lywio gweithredu
  • Mae’r rhaglen yn ymdrin â marwolaethau plant sy’n cael eu geni’n fyw, lle digwyddodd y farwolaeth ar ôl 1 Hydref 2009 a chyn pen-blwydd y plentyn yn 18 oed a lle mae’r plentyn naill ai’n preswylio fel arfer yng Nghymru neu’n marw yng Nghymru
  • Mae hyn yn cynnwys plant sydd o dan ofal awdurdod lleol ac sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gymru; neu'r rhai a all fyw dros dro y tu allan i Gymru at ddibenion gofal iechyd neu addysg

Mae’r rhaglen yn cwmpasu unrhyw farwolaeth plentyn a aned yn fyw sy’n digwydd ar ôl 1 Hydref 2009 a chyn pen-blwydd y plentyn yn 18 oed a lle mae’r plentyn naill ai’n preswylio fel arfer yng Nghymru neu’n marw yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys ymhle y digwyddodd digwyddiad a arweiniodd at farwolaeth y plentyn yng Nghymru waeth beth fo’r man preswylio arferol; a phlant sydd o dan ofal awdurdod lleol ac sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gymru; neu'r rhai a all fyw dros dro y tu allan i Gymru at ddibenion gofal iechyd neu addysg. Mae genedigaethau marw a therfyniadau beichiogrwydd wedi'u heithrio.

Mae’r rhaglen yn derbyn gwybodaeth am farwolaeth plentyn o nifer o ffynonellau megis ysbytai, yr heddlu, timau diogelu awdurdodau lleol, gwasanaeth ambiwlans ac ati ac felly nid oes ganddi unrhyw gysylltiad uniongyrchol â rhieni neu deuluoedd plant mewn profedigaeth.
Nid yw’r rhaglen yn cynnal ymchwil (h.y., astudiaethau sy’n ateb cwestiwn ymchwil penodol) ond bydd y rhaglen yn cyhoeddi adroddiadau thematig yn ymwneud ag achosion marwolaeth benodol. Mae adolygiadau thematig yn cynnwys:

  • Adolygu marwolaethau – mae hyn yn cynnwys nodi nifer y marwolaethau yn y gronfa ddata ac edrych ar yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig â phob marwolaeth a nodi unrhyw themâu.
  • Adolygiad o lenyddiaeth i nodi ffactorau risg ac ymyriadau effeithiol.
  • Trafodaethau panel arbenigol am yr adolygiad o farwolaethau (sy'n ddienw) ac adolygiad o lenyddiaeth.