Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiadau tywydd eithafol

Gall tywydd eithafol o boeth neu oer a llifogydd gael effaith andwyol ar iechyd y cyhoedd, yn enwedig ar iechyd pobl fregus megis yr henoed, plant ifanc iawn neu bobl sydd eisoes â chyflyrau meddygol.
 
Mae’n debygol iawn, yn sgil newid yn yr hinsawdd, y ceir mwy o lifogydd mynych, cyfnodau hir o dywydd poeth iawn a thywydd eithafol, yn ogystal â chynnydd yn lefel y môr.
 
Mae’r cyngor hwn ar iechyd y cyhoedd mewn tywydd eithafol yn ddefnyddiol i bawb, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol. Mae cyngor hefyd i drefnwyr digwyddiadau awyr agored ac i bobl â chyfrifoldebau gofal plant.
 
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod y cyfraniad sylweddol a gafwyd gan Public Health England wrth baratoi’r cyngor hwn.

Cofiwch y gellir defnyddio'r cyngor hwn unrhyw bryd, pan fo rhywun yn teimlo'n rhy boeth, yn rhy oer neu yn ystol llifogydd.