Rydym yn gwneud Cymru yn arweinydd wrth fynd i'r afael â ac atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs).
Mae'r Hwb Cymorth ACE wedi'i sefydlu gan gydweithrediad gwirfoddol o'r enw Cymru Well Wales, i'ch cefnogi chi i wneud newidiadau sy'n gwneud Cymru yn arweinydd wrth fynd i'r afael ag a atal ACEs. Gan weithio gyda chi, ein pwrpas yw rhannu syniadau, dysgu, herio a newid ffyrdd o weithio fel ein bod gyda'n gilydd, yn gallu torri'r cylch ACEs.
Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn ddigwyddiadau trawmatig, yn enwedig y rhai mewn plentyndod cynnar sy'n effeithio'n sylweddol ar iechyd a lles pobl yng Nghymru.
Gallwn dorri'r cylch o ACEs ar unrhyw gam: nid yw byth yn rhy hwyr. Gall atal ACE mewn cenhedlaeth sengl neu hyd yn oed leihau eu heffeithiau fod o fudd nid yn unig i'r plant hynny ond hefyd i genedlaethau'r dyfodol yng Nghymru.