Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi'r Cystadleuwyr yn Rownd Derfynol Gwobrau GIG Cymru 2022

Yng Nghynhadledd Genedlaethol Gwelliant Cymru ym mis Mai, cyhoeddwyd bod Gwobrau GIG Cymru yn dychwelyd yn 2022.  Ers hynny rydym yn falch iawn o dderbyn cymaint o gyflwyniadau gwych ac mae hi bellach yn bryd cyhoeddi’r enwebiadau ar y rhestr fer.

Mae'r Gwobrau'n cydnabod sut y gall syniadau arloesol ar gyfer newid wneud gwahaniaeth sylweddol i'r cleifion sydd angen gofal, y sefydliadau sy'n darparu gofal, a'r system iechyd a gofal yn gyffredinol. Mae'n gyfle i arddangos timau gweithgar ac ysbrydoledig sy'n gweithio gyda'i gilydd, gan ymdrechu i wella arferion gofal iechyd a gofal cleifion ledled Cymru.

Roedd y beirniaid yn ei chael hi’n arbennig o anodd llunio rhestr fer eleni gan fod safon yr enwebiadau mor uchel. Dywedodd un beirniad, “Roedd yn ysbrydoledig gweld cymaint y mae timau wedi’i gyflawni dros y blynyddoedd heriol iawn diwethaf. Rwyf wedi bod yn rhan o Wobrau GIG Cymru ers 2016 a hon oedd y flwyddyn anoddaf eto i ddewis y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol gan fod cymaint o waith anhygoel yn cael ei wneud i wella'r gofal i'n poblogaeth. Bydd yn wych gweld sut mae prosiectau'n esblygu ac yn datblygu, ac rwy'n gobeithio darllen mwy amdanynt ar gyfer gwobrau 2023.”  Ychwanegodd un arall, “Mae rhai prosiectau anhygoel ar waith. Roedd yn dasg heriol ac emosiynol i gwblhau'r rhestr fer yng nghanol y dagrau, ond roedd yn hyfryd iawn darllen am y gwaith gwych sydd ar y gweill ledled Cymru.” Ar ôl llawer o drafod rydym yn falch o gyhoeddi’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobrau GIG Cymru 2022.


Y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yw:

Cyflwyno iechyd a gofal o werth uwch

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Gofal Cefnogol: Dull sy'n Seiliedig ar Werth ar gyfer Gofal Lliniarol mewn Methiant Datblygedig y Galon.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Gwella canlyniadau i gleifion â Methiant y Galon gyda Ffracsiwn Alldafliad Llai

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Lleihau Ôl Troed Carbon Rhagnodi Anadlyddion yn Sector Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Cyflwyno gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - Cyflwyno Tîm Amlddisgyblaethol Gofal Canolraddol, Sir Gaerfyrddin

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Gwasanaeth COVID Hir BIPBC

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Diwallu anghenion pobl sy'n byw gyda methiant y galon trwy adsefydlu cardiaidd a hwb methiant y galon cymunedol.

Grymuso pobl i gyd-gynhyrchu eu gofal

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Datblygu ap digidol monitro methiant y galon o bell i rymuso cleifion i gyd-gynhyrchu eu gofal

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Grŵp Partneriaeth Profiad Bywyd COVID Hir

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Cyfres newydd o adnoddau addysg ar gyfer pobl â chlefyd yr arennau

Cyfoethogi llesiant, galluogrwydd ac ymgysylltu’r gweithlu iechyd a gofal

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - Gwella llif gwaith mewn Storfeydd Fferylliaeth yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Cysylltwyr Llesiant yn Gwneud Gwahaniaeth i Gynaliadwyedd y Gweithlu

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro - Clinigau iechyd croen galwedigaethol o bell rhithwir ar gyfer staff BIP Caerdydd a’r Fro: profiad 2 flynedd a gwersi a ddysgwyd

Gwella iechyd a llesiant

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Cerbyd diagnostig cardioleg cymunedol. Ymateb arloesol i C19 a'r dyfodol ar gyfer diagnosteg gardiaidd.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Gweithio mewn partneriaeth i gyflawni gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Sefydlu Fferm Amaethyddol a Gefnogir gan y Gymuned ar Dir yn Ysbyty Treforys, Abertawe

Gwella diogelwch cleifion

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys - Gwella effaith ymyriadau fferylliaeth tuag at well gofal cleifion, canlyniadau iechyd ac ymarfer rhagnodi

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Effaith gweithredu rhestr wirio o fewn llawdriniaethau i leihau ail lawdriniaeth ar gyfer gwaedu a thrallwysiad gwaed

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - Gwasanaeth CIVAS COVID-19 Cymru Gyfan

Darparu gwasanaethau mewn partneriaeth ar draws GIG Cymru

Cydweithrediad rhwng Gwasanaeth Gwaed Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - Dull partneriaeth o sefydlu gwyliadwriaeth COVID-19 yn gyflym yn ystod y pandemig

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - Prosiect Partneriaeth: Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) – Cynllun Peilot Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDEC) y GIG

Gofal a Alluogir gan Dechnoleg Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Defnyddio Cydweithredu a Thystiolaeth i Gyflawni Trawsnewid Digidol Cynaliadwy sy'n Canolbwyntio ar y Claf ar draws GIG Cymru.

Gweithio'n ddi-dor ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Ymateb cydweithredol i COVID: tîm arennol ac elusennau cleifion, sy'n gweithio mewn partneriaeth ar gyfer cymuned yr arennau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Gwasanaeth Dychwelyd Pwrpasol - BIPAB ac United Welsh

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Trechu Tlodi Gwelyau yng Nghymru


Trefnir Gwobrau GIG Cymru gan Gwelliant Cymru, sef y gwasanaeth gwella cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bydd paneli beirniadu nawr yn cynnal ymweliad rhithwir gyda phob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol i gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau a gweld drostynt eu hunain y buddion y maent wedi'u cynnig i gleifion. Mae pob panel beirniadu yn cynnwys arbenigwyr o bob rhan o GIG Cymru, y sector cyhoeddus a chyrff proffesiynol.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar 20 Hydref yng Nghaerdydd.