Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â'r cyrsiau

Mae ein cyrsiau yn eich cefnogi chi i fagu hyder yn eich gallu i reoli a chynnal bywydau egnïol a chyflawn. Mae’r cyrsiau’n ymdrin ag ystod eang o bynciau gan gynnwys:

  • Blinder, straen a phroblemau emosiynol fel hwyliau isel, dicter, ofn a rhwystredigaeth
  • Cyfathrebu gyda’ch teulu, eich ffrindiau a'ch tîm gofal iechyd
  • Ymarfer corff priodol ar gyfer cynnal a gwella cryfder a gwytnwch
  • Bwyta'n iach
  • Technegau anadlu
  • Datblygu a chynnal eich cynllun gofal hunan-reoli eich hun
  • Technegau datrys problemau a gwneud penderfyniadau
  • Defnyddio meddyginiaeth yn briodol
  • Cynllunio ar gyfer y dyfodol