Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

01/09/2021 - Cynllun Gwên - gadewch i ni wenu eto!

Mae'r rhaglen gwella iechyd y geg a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn ailgychwyn mewn ysgolion cynradd a meithrinfeydd. Cyn y pandemig, dathlodd y Cynllun Gwên 10 mlynedd o wella iechyd plant.

Gan ddychwelyd o rolau hanfodol yn y GIG yn ymwneud â Covid-19, bydd ein staff yn cysylltu â lleoliadau i hyfforddi staff addysgu, cael caniatâd gan rieni a darparu cyfarpar i ailddechrau'r Cynllun Brwsio Dannedd Dyddiol. Bydd y rhaglen Farnais Fflworid hefyd yn ailgychwyn. Mae'r prosesau wedi cael eu hadolygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Arhoswch i rywun o'ch tîm Cynllun Gwên gysylltu â chi cyn dechrau eich rhaglen. Eitem newyddion y Cynllungwên yn llythyr Dysg