Neidio i'r prif gynnwy

Rhanddeiliaid Strategol-Iechyd:  Cwestiynau Cyffredin

Mae cronfa ddata a’r broses atgyfeirio NERS bresennol wedi dyddio. Mae’n anodd tynnu data cadarn, dibynadwy a chywir ohoni ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Mae angen system fodern, effeithiol a chadarn ar NERS i sicrhau y gellir ei monitro a'i gwerthuso'n effeithiol, er mwyn deall a gwella ei ansawdd a'i effeithiolrwydd, yn ogystal â dangos effaith y cynllun.  
 
Mae'r system newydd yn ddiogel, a thrwy ddefnyddio system atgyfeirio electronig, mae'n dileu'r angen am atgyfeiriadau papur. Bydd elfen gofal sylfaenol y system hefyd yn cael ei hintegreiddio'n llawn ag EMIS a VISION gan ganiatáu i atgyfeiriadau gael eu hanfon yn syth, a hefyd yn lleihau amseroedd aros atgyfeirio. Bydd gan weithwyr iechyd proffesiynol mewn lleoliadau eilaidd a chymunedol fynediad at borth ar y we i atgyfeirio cleifion gan ddefnyddio system ddiogel


 

Bydd y Porth Theseus newydd yn rhoi mynediad i system atgyfeirio a rheoli cleifion Theseus i Weithwyr Proffesiynol Atgyfeirio Ymarfer Corff, Cydlynwyr a Rheolwyr NERS, a gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi'u cofrestru gan y GIG i atgyfeirio cleifion. 

Bydd nifer o sesiynau hyfforddi ar-lein wedi'u trefnu cyn ac ar ôl lansio'r system ar gyfer NERS Gweithwyr Proffesiynol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, a Chydlynwyr NERS.

Bydd gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi'u cofrestru gan y GIG yn cael mynediad at borth hyfforddi Theseus gyda fideos a dogfennau defnyddiol i dywys staff drwy'r system. 

Mae llawer o fanteision i symud rheolaeth cleifion NERS i borth Theseus, mae'r rhain yn cynnwys:

  • Mae'n ffordd gyflym, hawdd a diogel o atgyfeirio at NERS gan ddisodli system bapur hen ffasiwn. 
  • Bydd porth Theseus yn cynyddu diogelwch data cofnodion cleifion yn sylweddol. 
  • Bydd yn integreiddio â chofnodion cleifion mewn systemau meddygon teulu, EMIS yn gyntaf, yna Vision. 
  • Gall gweithwyr iechyd proffesiynol gofal eilaidd a chymunedol atgyfeirio trwy gyfeiriad gwe y porth neu greu cyfrif.  
  • Bydd cofnodion cleifion unigol a gedwir ar y system cleifion NERS newydd yn fwy diogel gan ddileu atgyfeiriadau papur. 
  • Mae'n lleihau'r amser a'r ymdrech sy’n cael ei dreulio ar waith papur a gweinyddiaeth ar gyfer atgyfeirwyr a thimau NERS lleol.  
  • Bydd gwell casglu data yn arwain at welliannau parhaus yn ansawdd, effeithiolrwydd a chysondeb y gwaith o gyflawni’r cynllun. 

Bydd porth Theseus yn gwella ansawdd casglu data ac yn caniatáu echdynnu data cadarn, dibynadwy a chywir.

Bydd adroddiadau safonedig yn sicrhau bod data ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (e.e. trwy fewnbwn, derbyniad, ymlyniad a chynnal a chadw, data demograffig, rhestrau aros) ar gael yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. 

Bydd hyn hefyd yn galluogi Rhaglen NERS i fonitro a gwerthuso canlyniadau ac effaith y cynllun yn ogystal â nodi'r hyn sy'n gweithio'n dda er mwyn rhannu arferion gorau a pha agweddau sydd angen bod yn ganolbwynt i brosiectau gwella ansawdd. 

Mae eich cefnogaeth yn hanfodol wrth gefnogi rhaglen NERS i hyrwyddo manteision cadarnhaol defnyddio'r system newydd i bob gweithiwr iechyd proffesiynol sydd wedi'i gofrestru gan y GIG a all atgyfeirio at NERS o fewn gofal sylfaenol, eilaidd a chymunedol. 
Gyda'ch help chi, gallwn sicrhau: 

  • Newid cyflym o atgyfeiriadau papur i ddefnyddio'r porth Theseus newydd  
  • Bod atgyfeirwyr iechyd proffesiynol yn gwybod sut i gael mynediad at wybodaeth a hyfforddiant ar sut i atgyfeirio at y rhaglen NERS gan ddefnyddio'r porth newydd. 
     

Bydd porth Theseus yn galluogi cynlluniau NERS lleol i fonitro'r galw yn erbyn capasiti, olrhain llwythi achosion Gweithwyr Proffesiynol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff ac adolygu canlyniadau cleifion.