Neidio i'r prif gynnwy

Helpwr Arian

Mae’n darparu cyngor a chefnogaeth ariannol ochr yn ochr ag offer a chyfrifiannellau ar-lein i helpu i gadw golwg ar faterion ariannol a chynllunio ymlaen llaw. Mae Helpwr Arian yn dod â chymorth a gwasanaethau tri darparwr sy’n darparu canllawiau ariannol a gefnogir gan y Llywodraeth ynghyd: y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.

Manylion cyswllt:

Rhif ffôn: 0800 138 0555 (Cymru) / 0899 138 7777 (Lloegr) / Dydd Llun-Dydd Gwener (8am-6pm)

Sgwrs ar y we: https://www.moneyhelper.org.uk/cy/contact-us Dydd Llun-Dydd Gwener (8am-6pm); Dydd Sadwrn (8am-3pm)

Gwefan: https://www.moneyhelper.org.uk/cy

Offer ac adnoddau ychwanegol gan y Gwasanaeth Helpwr Arian:

Mae’r Cynlluniwr Cyllideb yn helpu pobl i reoli gwariant y cartref ac yn dadansoddi canlyniadau i helpu unigolion i gymryd rheolaeth o’u harian. Mae eisoes wedi cynorthwyo cannoedd o filoedd o bobl.

Mae’n cynnig cynllun deg wythnos am ddim sy’n hyblyg i helpu i feithrin hyder mewn rheoli arian, datblygu dulliau i gynilo arian a chreu arferion gwell ar gyfer dyfodol hirdymor o fod yn hyderus ynghylch arian.

I’r rhai sy’n cael anawsterau gyda dyledion, gall fod yn anodd gwybod at bwy i droi heb orfod talu ffioedd uchel a mynd i fwy o ddyled ond, gyda llawer o wasanaethau cyngor cenedlaethol a lleol am ddim ledled y DU, gellir defnyddio’r offeryn hwn i ganfod y cymorth priodol.

Ar gyfer rheoli dyledion, cael cyngor am ddim ar ddyledion, a sut i fenthyca mewn ffordd fforddiadwy.

I ganfod pa fudd-daliadau sydd ar gael a dysgu mwy am y Credyd Cynhwysol.

Cyngor ar gadw cyfrif banc, cynllunio ariannol a thorri costau.

Cyngor ar ddeall hawliau cyflogaeth, pa fudd-daliadau mewn gwaith sydd ar gael a sut i ddelio â cholli swydd.

Mae’n darparu canllaw ar gyfer pan fydd angen gwneud penderfyniadau mawr am arian, er enghraifft wrth ofalu am aelodau o’r teulu a phartneriaid, yn ystod beichiogrwydd, neu wrth ymdrin â phroblemau fel salwch, ysgariad neu brofedigaeth.

Cyngor ar ganfod ac osgoi sgamiau ac adfer yn eu sgil.