Mind Cymru ydym ni. Rydyn ni yma i frwydro dros iechyd meddwl. Dros gefnogaeth, dros barch, drosoch chi. Rydym yn newid meddyliau ledled Cymru drwy wneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth bob dydd.
Rydym yn cefnogi meddyliau – yn cynnig cymorth, gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau lleol.
Ac rydym yn cysylltu meddyliau. Dod â phobl sy’n poeni am iechyd meddwl at ei gilydd i wneud gwahaniaeth.
Mae Mind Cymru yn cynnig cwrs hunangymorth dan arweiniad dros chwe wythnos am ddim sy'n gallu helpu gyda gorbryder, iselder ysbryd, hunan-barch isel, straen, teimlo'n unig, rheoli dicter, a galar a cholled. Mae ar gael i unrhyw un dros 18 oed yng Nghymru. Bob wythnos bydd Ymarferydd Monitro Gweithredol yn anfon gwybodaeth a llyfrau gwaith a ffonio i gynnig cymorth ac arweiniad.
- Monitro gweithredol (Saesneg yn unig)