Mae Able Futures yn bartneriaeth genedlaethol arbenigol a sefydlwyd i ddarparu’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Nod Able Futures yw helpu pobl sy’n byw gydag anawsterau iechyd meddwl i brofi mwy o ddiwrnodau da na diwrnodau gwael. O ganlyniad, mae’r gwasanaeth wedi’i deilwra’n benodol i helpu pobl mewn cyflogaeth y mae angen cymorth arnynt i reoli eu hiechyd meddwl.
Mae'r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith yn cynnig cyngor ac arweiniad am ddim i gyflogwyr a gweithwyr gan arbenigwyr iechyd meddwl gyda chymorth sy'n para hyd at 9 mis.
- Cymorth iechyd meddwl ar-lein
- Ffôn - 0800 321 3137 (8am hyd 10.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener)