Mae Able Futures yn bartneriaeth genedlaethol arbenigol a sefydlwyd i ddarparu’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Nod Able Futures yw helpu pobl sy’n byw gydag anawsterau iechyd meddwl i brofi mwy o ddiwrnodau da na diwrnodau gwael. O ganlyniad, mae’r gwasanaeth wedi’i deilwra’n benodol i helpu pobl mewn cyflogaeth y mae angen cymorth arnynt i reoli eu hiechyd meddwl.
Mae Able Futures yn cynnig cyfres o weminarau i gyflogwyr.
- Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
- Goroesi Straen yn y Gweithle