Mae pwysau gormodol a gordewdra yn dod yn fwy cyffredin yng Nghymru ac, ar yr un pryd, mae ein gallu cyfunol i gydnabod beth yw pwysau iach yn lleihau.
Mae hwn yn bryder sylweddol o ran iechyd cyhoeddus, gan y gall cario pwysau gormodol gael effaith sylweddol ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl unigolyn.
Mae'r gyfran o blant ac oedolion yng Nghymru sydd â phwysau iach yn gostwng:
Rhwng 2003 a 2015, gwelwyd cynnydd o 4% mewn lefelau gordewdra ymhlith oedolion, a gostyngiad o 3.6% ymhlith y rheini â phwysau iach.
Mae tua 60% o oedolion (16+) dros bwysau neu'n ordew - gyda chwarter o'r rheini yn cael eu hystyried yn ordew.
Mae llawer o'n hymddygiadau eisteddog yn dechrau yn ystod plentyndod. Er enghraifft, mae llawer o blant ysgol gynradd ac ysgol uwchradd yn mynd i'r ysgol mewn car, gan osod patrymau ymddygiad sy'n cael eu hailadrodd drwy gydol eu bywydau
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu cyfres o ddogfennau tystiolaeth er mwyn ategu strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' Llywodraeth Cymru:
Mae gan Cymru gyd-destun polisi cefnogol iawn, gan gynnwys:
Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan – Sefydlwyd y llwybr gordewdra yn 2010 ac mae'n pennu dull gweithredu pedair lefel er mwyn rheoli a thrin gordewdra. Mae'r llwybr hwn wrthi'n cael ei adolygu
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i Lywodraeth Cymru lunio strategaeth Atal a Lleihau Gordewdra ac Asesiad o'r Effaith ar Iechyd
Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013
Mae Pwysau Iach: Cymru Iach yn cyflwyno ein cynlluniau uchelgeisiol, dros gyfnod o ddeng mlynedd, i drawsnewid sut rydym yn gwneud penderfyniadau yn ein bywydau bob dydd sy’n effeithio ar ein pwysau a’n llesiant. Mae’r Strategaeth yn seiliedig ar ein pedair thema: Amgylcheddau Iach, Lleoliadau Iach, Pobl Iach ac Arweinyddiaeth a Galluogi Newid.
Bydd gan y strategaeth 5 cynllun cyflawni mewn cylchoedd 2 flynedd. Achosodd pandemig COVID-19 i ni oedi gwaith ar gynllun cyflawni 2020 i 2022. Rydym wedi ailffocysu gwaith cyflenwi’r strategaeth gyda chynllun cyflawni diwygiedig yng ngoleuni'r pandemig.
Cyngor craff i helpu i ostwng eich bil bwyd a mwynhau diet iach a chytbwys.