Pam Trafferthu gyda Bwyta'n Iach yn y Gweithle?
Mae pobl yn bwyta o leiaf draen o'u calorïau dyddiol yn y gwaith. Mae'r hyn rydym yn ei fwyta ac yn ei yfed nid yn unig yn effeithio ar ein hiechyd ond ar ein perfformiad gwaith hefyd. Os na fydd cyflogeion yn bwyta prydau bwyd cytbwys, rheolaidd nac yn yfed digon o ddŵr efallai y byddant yn cael pen tost, yn teimlo'n ddiegni neu'n cael trafferth wrth ganolbwyntio.
Awgryma tystiolaeth y gall gwella mynediad at fwyd a diodydd iachach yn y gweithle fod yn fuddiol i gyflogwyr a chyflogeion.
Cyf: Sefydliad Prydeinig y Galon, 2013
Pa Gamau Y Gall Cyflogwyr Eu Cymryd?
- Ewch i dudalennau 'making the case' wefan Sefydliad Prydeinig y Galon er mwyn helpu i gyflwyno achos busnes dros gefnogi iechyd yn y gweithle.
- Ceisiwch annog pobl i gymryd rhan yn y broses.
- Anogwch a chefnogwch bobl i gyflwyno arferion bwyta'n iach yn ystod eu diwrnod gwaith - gall hyn helpu i godi hwyliau, lleihau straen, a lleihau'r risg o salwch difrifol.
- Ceisiwch roi cynnig ar sawl ffordd wahanol o gefnogi cynlluniau er mwyn helpu staff i fwyta'n iachach yn y gweithle, yn ogystal â'r tu allan i oriau gwaith.
- Anogwch gyflogeion i ddod â phecyn cinio iach
- Cynhaliwch sesiynau blasu er mwyn annog pobl i roi cynnig ar fwydydd iach gwahanol.
- Cysylltwch â Mentrau Bwyd Cydweithredol lleol er mwyn trefnu i ffrwythau a llysiau iach gael eu dosbarthu i'r gweithle.
- Cynigiwch 'ddewis iach' mewn ciniawau busnes, cyfarfodydd a digwyddiadau.
- Cynigiwch amgylchedd cefnogol sy'n cynnwys modd i storio bwyd yn ddiogel, a phosteri sy'n hyrwyddo bwyta'n iach.
- Ac yn bwysicach na dim...gwnewch y cyfan yn hwyl! Po fwyaf hwyliog fydd, y mwyaf y bydd pobl am gymryd rhan.
Dod o hyd i Wasanaeth
- Mae Pwysau Iach Byw'n Iach yn cynnig ystod o wybodaeth ac adnoddau sydd wedi'u teilwria i'ch anghenion. Mae ein hadnodd 'Dod o hyd i'ch siwrnai' yn eich galluogi i ddod o hyd i'r cynnwys cywir i chi, er mwyn rhoi'r cyfle gorau i chi lwyddo.
- Gall Cymru Iach ar Waith helpu cyflogwyr gyda syniadau hwyliog a diddorol i hybu ac annog Bwyta'n Iach yn y gweithle drwy Wobrau'r Gweithle.
Arweiniad a Gwybodaeth Bellach