Y ffordd fwyaf effeithiol o reoli iechyd a diogelwch yw sicrhau eu bod yn rhan o'r broses ddyddiol o redeg eich busnes. Gall gwneud eich sefydliad yn lle mwy diogel i weithio ynddo a gall helpu i leihau damweiniau ac anafiadau yn y gweithle, lefelau absenoldeb, a gwella cyfathrebu, morâl tîm, a chynhyrchiant.
Yr egwyddorion allweddol ar gyfer rheoli iechyd a diogelwch eich sefydliad yn effeithiol yw:
Mae deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch wedi'i chynllunio i'ch diogelu chi, eich gweithwyr, a'r cyhoedd rhag peryglon yn y gweithle. Mae gan sefydliadau ddyletswydd gyfreithiol i roi trefniadau addas ar waith i reoli iechyd a diogelwch; fodd bynnag, yn aml gall fod yn broses ddryslyd. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn annog ymagwedd synnwyr cyffredin ac ymarferol at reoli iechyd a diogelwch.
Cyf: ‘ONS – sickness absence in labour market (Saesneg yn unig) , 2014’
*Cysylltwch â Chymru Iach ar Waith i gael gwybodaeth am y rhaglenni gwobrwyo yn y gweithle sydd wedi'u hariannu a'u cefnogi’n llawn, a all eich helpu i adolygu a hyrwyddo amgylchedd gwaith mwy diogel yn eich sefydliad.
Anfonwch e-bost atom yn WorkplaceHealth@wales.nhs.uk gyda’ch ymholiadau a bydd un o’n Cynghorwyr yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau. Dyma’r corff sy’n gyfrifol am annog, rheoleiddio a gorfodi iechyd, diogelwch a llesiant yn y gweithle, ac am ymchwil i risgiau galwedigaethol. Mae HSE yn gweithio i atal pobl rhag cael eu lladd, eu hanafu neu eu gwneud yn sâl gan waith. Mae HSE Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, yn benodol ym meysydd sy’n gyffredin o ran diddordeb e.e. iechyd a diogelwch mewn amaethyddiaeth, iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a gwasanaethau cyhoeddus.
Isod mae ychydig o gyngor ac arweiniad a hyrwyddir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Saesneg yn unig) (HSE). Cliciwch yma (Saesneg yn unig) ar gyfer pob un o ganllawiau HSE.
Saesneg yn unig
Deall asesiadau risg a pholisïau – canllawiau ar gael ar ddatblygu polisi iechyd a diogelwch ac asesiadau risg.
Asesiadau risg enghreifftiol a rhyngweithiol – Mae gwefan HSE yn cynnwys rhai asesiadau risg enghreifftiol a rhai asesiadau risg rhyngweithiol ar-lein ar gyfer amgylcheddau risg isel.