Neidio i'r prif gynnwy

Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol

Deall Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR)

Mae Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) yn cyfeirio at yr arferion a'r ymrwymiadau moesegol y mae sefydliadau'n eu defnyddio i gael effaith gadarnhaol ar gymdeithas. Mae'n cwmpasu ystod eang o weithgareddau sy'n hyrwyddo llesiant cymdeithasol, cynaliadwyedd amgylcheddol ac ymddygiadau moesegol mewn gweithrediadau busnes. Trwy integreiddio CSR i strategaethau craidd, gall cyflogwyr wella eu henw da, meithrin teyrngarwch cwsmeriaid ac yn y pen draw ysgogi llwyddiant busnes.

Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) ac Iechyd a Llesiant Gweithwyr

Agwedd allweddol ar CSR yw ei berthynas uniongyrchol ag iechyd a llesiant gweithwyr. Mae sefydliadau sy'n cymryd rhan weithredol mewn mentrau CSR yn dangos ymrwymiad nid yn unig i'w helw ond hefyd i lesiant eu gweithwyr a'r gymuned ehangach. Drwy greu diwylliant yn y gweithle sy’n blaenoriaethu iechyd a llesiant, gall cyflogwyr greu gweithlu mwy brwdfrydig a chynhyrchiol.

Gall buddsoddi mewn llesiant gweithwyr trwy fentrau CSR arwain at nifer o fanteision. Mae’r manteision hyn yn cynnwys:

  • Gwell ymgysylltiad â gweithwyr

Mae gweithwyr yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn gysylltiedig â'u sefydliad pan fyddant yn gweld ymrwymiad i gyfrifoldeb cymdeithasol.

  • Llai o absenoldeb

Mae gweithwyr iachach yn llai tebygol o gymryd absenoldeb salwch, gan arwain at weithlu mwy sefydlog a chynhyrchiol.

  • Denu a chadw talent

Gall enw da CSR i ddenu talent sy'n rhoi blaenoriaeth i weithio i gyflogwyr sy'n gyfrifol yn gymdeithasol.

Beth gall cyflogwyr ei wneud?

Gall cyflogwyr ddangos eu hymrwymiad i CSR:

  1. Yn y gweithle
    • Rhaglenni cymorth i weithwyr: Gweithredu rhaglenni iechyd a llesiant cynhwysfawr sy’n hybu llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol ymhlith gweithwyr.
    • Cael mynediad at adnoddau: Cynnig mynediad i neu ddarparu gwybodaeth am wasanaethau cwnsela, adnoddau rheoli straen, cyfleusterau ffitrwydd a threfniadau gwaith hyblyg i gefnogi cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
    • Addysg iechyd: Darparu addysg ac adnoddau ar ddewisiadau ffordd iach o fyw, mesurau gofal iechyd ataliol ac ymwybyddiaeth iechyd meddwl.
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant: Datblygu polisïau sy’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle, a sicrhau bod pob gweithiwr yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i barchu.
    • Hyfforddiant diwylliannol: Cynnig hyfforddiant i helpu gweithwyr i ddeall gwahanol ddiwylliannau ac adnabod rhagfarnau cudd, gan greu gweithle mwy cynhwysol.
  2. Cymuned
    • Cymorth yn y Gymuned Ehangu cymorth y tu hwnt i’r sefydliad i fynd i’r afael â materion cymunedol ehangach fel addysg, cynaliadwyedd amgylcheddol ac anghydraddoldeb cymdeithasol.
    • Partneriaethau: Partneru ag elusennau lleol, sefydliadau gwirfoddol a chyrff y llywodraeth i gefnogi prosiectau cymunedol fel ymgyrchoedd glanhau’r amgylchedd a mentrau addysgol.
    • Cyfleoedd gwirfoddoli: Rhoi cyfleoedd i weithwyr wirfoddoli ar gyfer prosiectau cymunedol, a chaniatáu iddynt gyfrannu at achosion fel cynaliadwyedd amgylcheddol, llesiant cymdeithasol, neu iechyd y cyhoedd, a all hefyd fod o fudd i'w llesiant eu hunain.
  3. Y Farchnad
    • Caffael Moesegol: Blaenoriaethu cyflenwyr a chontractwyr sy'n dilyn arferion llafur moesegol, safonau cynaliadwyedd amgylcheddol a rheoliadau iechyd a diogelwch.
    • Cyrchu lleol: Annog cyrchu deunyddiau yn lleol i gefnogi'r economi leol, lleihau allyriadau trafnidiaeth a chryfhau busnesau bach.
    • Cymalau CSR: Cynnwys cymalau mewn contractau caffael sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr ddangos eu hymrwymiad i arferion moesegol, cynaliadwyedd a chymorth cymunedol.
  4. Amgylchedd
    • Nodau datblygu cynaliadwy: Alinio strategaethau CSR â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig (SDGs) sy’n ceisio mynd i’r afael â heriau byd-eang dybryd fel newid hinsawdd, tlodi ac anghydraddoldeb.
    • Arferion cynaliadwy: Integreiddio arferion busnes cynaliadwy i weithrediadau dyddiol trwy leihau gwastraff, arbed adnoddau a lleihau effaith amgylcheddol y sefydliad.
    • Buddsoddi mewn cynaliadwyedd: Buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, technolegau ecogyfeillgar a mentrau i leihau ôl troed carbon y sefydliad, gan gyfrannu at weithredu ar newid hinsawddhirdymor.
  5. Ymgysylltu a chydweithio â rhanddeiliaid
    • Ymgysylltu: Ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, megis gweithwyr, cwsmeriaid, buddsoddwyr a chymunedau lleol, i nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer mentrau CSR sy'n mynd y tu hwnt i iechyd a llesiant yn unig.
    • Adeiladu partneriaethau: Adeiladu partneriaethau gyda darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, elusennau, prifysgolion a chyrff y llywodraeth i gael mynediad at arbenigedd, adnoddau a rhwydweithiau i gael mwy o effaith.
    • Tryloywder: Rhannu diweddariadau ar gynnydd CSR yn rheolaidd, gan gynnwys nodau iechyd a llesiant, i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd gyda rhanddeiliaid.

Rhagor o wybodaeth

Mae amrywiaeth o ffynonellau dibynadwy o arweiniad, pecynnau cymorth a gwybodaeth bellach i gyflogwyr sydd am ymgorffori arferion CSR, yn enwedig y rhai sy’n canolbwyntio ar iechyd a llesiant:

Menter gan Lywodraeth Cymru yw’r Contract Economaidd  sydd wedi’i dylunio i annog busnesau a sefydliadau i ddefnyddio arferion cyfrifol sy’n ysgogi gwaith teg, llesiant gweithwyr a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae'n cyd-fynd ag egwyddorion CSR drwy ei gwneud yn ofynnol i fusnesau ddangos eu hymrwymiad i gyfrifoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol yn gyfnewid am gymorth gan y llywodraeth a chyfleoedd ariannu.

Mae BEIS yn darparu canllawiau ar wahanol agweddau ar lywodraethu corfforaethol ac ymddygiad busnes cyfrifol. Gall cyflogwyr gael gwybodaeth am ofynion adrodd CSR, arferion caffael cynaliadwy ac ymddygiad busnes moesegol.

BITC yw un o’r sefydliadau mwyaf blaenllaw yn y DU sy’n ymroddedig i hyrwyddo arferion busnes cyfrifol. Maent yn cynnig adnoddau, pecynnau cymorth a chanllawiau amrywiol ar CSR, a mentrau sy'n ymwneud ag iechyd a llesiant.

Mae HSE yn darparu canllawiau ac adnoddau cynhwysfawr ar iechyd, diogelwch a llesiant yn y gweithle. Gall cyflogwyr ddod o hyd i wybodaeth am reoli risgiau iechyd yn y gweithle, hyrwyddo llesiant meddyliol a chreu amgylchedd gwaith iach.

Mae Cyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cynnig arweiniad ac adnoddau sydd wedi'u teilwra'n benodol i sefydliadau gofal iechyd y GIG. Maent yn ymdrin â phynciau fel iechyd a llesiant gweithwyr, ymgysylltu â staff a rheoli straen yn y gweithle.

Mae CIPD yn cynnig adnoddau ac ymchwil ar lesiant gweithwyr, gan gynnwys arweiniad ar ddylunio a gweithredu strategaethau llesiant effeithiol. Gall cyflogwyr ddod o hyd i becynnau cymorth, astudiaethau achos ac adroddiadau i gefnogi eu hymdrechion i hybu iechyd a hapusrwydd gweithwyr.

Elusen yn y DU yw Y Siarter Busnes Da sy’n achredu busnesau sydd wedi ymrwymo i arferion busnes cyfrifol, gan gynnwys llesiant gweithwyr. Mae'n rhoi arweiniad i gyflogwyr ar fodloni safonau Y Siarter Busnes Da, gan eu helpu i ddangos eu hymroddiad i CSR. Mae un ffi gofrestru o £300 ar gyfer y rhai sydd â 51 neu fwy o weithwyr a £150 ar gyfer sefydliadau â hyd at 50 o weithwyr, ac mae’r ffi yn cwmpasu blwyddyn gyntaf achredu Busnesau Bach a Chanolig.

Pynciau cysylltiedig

Cynaliadwyedd Amgylcheddol

Iechyd Meddwl a Llesiant

Ffyrdd Hyblyg o Weithio (heb ei ddatblygu eto)