Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o'r Cydweithrediad

Sefydlwyd Cydweithrediad GIG Cymru yn 2015 i weithio ar ran GIG Cymru, ac i gefnogi Llywodraeth Cymru. Drwy gydweithio, ymgysylltu, hwyluso a grymuso, mae ein timau'n gweithio i wella gwasanaethau GIG Cymru ar draws ffiniau sefydliadol, a gwella ansawdd gofal i gleifion.

Amdanom ni

Wedi'i sefydlu yn 2015, mae'r Cydweithrediad yn gweithio fel sefydliad cenedlaethol mewn meysydd sy'n cynnig y cyfle ar gyfer gwelliant ar draws byrddau iechyd/ymddiriedolaethau. Rydym yn gweithio ar ran y prif weithredwyr a’r cadeiryddion o'r byrddau iechyd, yr ymddiriedolaethau a'r awdurdod iechyd arbennig sy'n rhan o GIG Cymru. Rydym yn helpu i lunio, cynllunio a gwneud argymhellion ar ddyfodol gwasanaethau'r GIG ledled Cymru. 

Mae'r Cydweithrediad yn cael ei gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran GIG Cymru. Drwy ein trefniadau cynnal, caiff y Cydweithrediad ei gefnogi gan dimau corfforaethol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae'n gweithio o fewn ei reolau sefydlog a'i gyfarwyddiadau ariannol sefydlog a'r holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol. 

Mae'r Cydweithrediad yn atebol am ei berfformiad a chyflawni ei gynllun gwaith i gadeiryddion a phrif weithredwyr GIG Cymru. Mae Fforwm Arweinyddiaeth y Cydweithrediad yn gweithredu fel y grŵp llywodraethu cyfrifol ar gyfer y Cydweithrediad ac mae'n cymeradwyo cynllun gwaith blynyddol y Cydweithrediad.
 
Mae ein timau'n cwmpasu amrywiaeth eang o rwydweithiau clinigol, rhaglenni cenedlaethol strategol, prosiectau a swyddogaethau cymorth. Drwy gydol 2018/19 rydym wedi ehangu'n sylweddol i fodloni ceisiadau gan fyrddau iechyd a Llywodraeth Cymru.