Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd

Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd

 

Mae Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd yn nodi dealltwriaeth a rennir o’r canlyniadau iechyd sydd yn bwysig i bobl Cymru. Cafodd ei gyhoeddi ym Mawrth 2016 yn dilyn 15 mis o ddatblygu, ymgysylltu ac ymgynghori. Gellir ei ddefnyddio gan Lywodraeth, cymunedau lleol, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau’r sector gwirfoddol yn ogystal ag unigolion a’u teuluoedd i ysbrydoli a llywio gweithredu i wella a diogelu iechyd a llesiant.  Mae’n gysylltiedig â dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a osodwyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.

O fewn y fframwaith, mae gan bob canlyniad ddangosyddion unigol.  Trwy’r dangosyddion hyn yr ydym yn gobeithio asesu ble’r ydym nawr, a sut yr ydym yn datblygu o ran gwella iechyd nawr ac i’r dyfodol. Mae gan bawb rôl i’w chwarae yn gwella iechyd yng Nghymru.

Sut mae’r fframwaith hwn yn cysylltu â fframweithiau canlyniadau eraill?

Mae’r Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd yn cysylltu’n agos â fframweithiau canlyniadau eraill.  Ceir gorgyffwrdd uniongyrchol gyda rhai dangosyddion a rennir ar draws y fframweithiau hyn, tra bod rhai dangosyddion sydd yn ategu eraill. Mae’r fframweithiau i gyd yn gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WBFG). Am fwy o fanylion gweler tudalen 4 Mesur iechyd a llesiant cenedl.

 
 

 
Cyrchu'r data  

Mae'r offeryn adrodd a'r dystiolaeth ar gyfer crynodebau gweithredu effeithiol wedi cael eu datblygu gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (PHOF) Cymru. 

Yn ogystal, mae'r holl ddata ar lefel bwrdd iechyd yn yr offeryn, yn cynnwys data tueddiadau hanesyddol, wedi cael ei ddiweddaru i roi cyfrif am y newid i ffiniau bwrdd iechyd a ddaeth i rym ar 1 Ebrill, lle y bo'n bosibl. Mae'r map dangosydd yn rhoi manylion ynghylch pa ddangosyddion ar lefel bwrdd iechyd a nodir yn y ffiniau byrddau iechyd ar ôl neu cyn Ebrill 2019.

Oherwydd problemau gyda gweinydd Tableau, ar hyn o bryd ni allwn ddarparu'r offeryn yn y fformat arferol. Defnyddiwch y dolenni isod i lywio i'ch tudalen ofynnol.

 


Ffeiliau ategol 

Cefnogir yr offeryn adrodd gan fap dangosydd a chanllaw technegol ar gael. Gellir gweld y data a ddefnyddir yn yr offeryn yn y daenlen ddata yma.

Cefnogir y crynodebau tystiolaeth a'r mapiau gan ganllaw i ddefnyddwyr.

Gweler ein hatodlen ddiweddaru am fwy o fanylion am ddiweddariadau yn y dyfodol.

Mae'r data a lawrlwythwyd o'r diweddariadau blaenorol ar gael yma:
Mis Medi 2017 
Mis Medi 2018 

 


Diweddariadau diweddaraf 

 

 

 

 


Cysylltu 

Rydym bob amser yn awyddus i wella’r cynnyrch yr ydym yn ei gynhyrchu er mwyn sicrhau eu bod yn gyfeillgar i ddefnyddwyr. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar y proffil lles meddwl, cysylltwch â ni trwy anfon ebost: arsyllfaiechydcyhoedduscymru@wales.nhs.uk