Neidio i'r prif gynnwy

Dangosfwrdd Data Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN)



Negeseuon Allweddol

 

  • Mae lles meddwl wedi gostwng yn sylweddol ers 2017, gan effeithio ar ferched yn benodol.

 

  • Mae cyfran y merched sydd yn adrodd sgorau lles meddwl isel wedi cynyddu 9.5 pwynt canran ers 2017, a gwelir gostyngiad tebyg o 6.4 pwynt canran yng nghyfran y merched sydd yn nodi sgorau lles meddwl uchel. *
     
  • Mae lefelau gweithgaredd corfforol wedi lleihau o un flwyddyn i’r llall rhwng 2017 a 2021 gyda llai na 12% o ferched yn y data mwyaf diweddar yn bodloni canllawiau gweithgaredd corfforol o’u cymharu â bron 21% o fechgyn.

 

  • Mae merched yn adrodd lefelau uwch o deimlo llawer o bwysau yn barhaus oherwydd gwaith ysgol na bechgyn ym mhob ALl yng Nghymru, ar draws bob un o dair blynedd yr arolwg, ond mae’r bwlch yma wedi bod yn ehangu dros amser (blwch rhwng bechgyn a merched yn 8% yn 2017, 10% yn 2019, a bron 15% yn 2021) gyda merched yn Sir Fynwy yn adrodd yr uchaf bob blwyddyn (38% o ferched yn Sir Fynwy yn 2021).

 

  • Ers 2017 mae llai o fyfyrwyr wedi adrodd eu bod yn cael eu bwlio neu eu bod nhw yn bwlio pobl eraill. Mae hyn yn arbennig o amlwg ymysg myfyrwyr hŷn (Y rheiny sydd wedi cael eu bwlio yn 16 oed yn 2021 25.5% o’i gymharu â 30.7% yn 2017)

(* Mae sgôr isel rhwng 7 a 19.5 ac mae sgôr uchel uwchlaw 27.5, mae sgorau allan o gyfanswm o 35)

Cyflwynir canlyniadau arolwg am iechyd a lles plant oed ysgol uwchradd yng Nghymru mewn dangosfwrdd rhyngweithiol am y tro cyntaf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r dangosfwrdd wedi cael ei greu mewn cydweithrediad â thîm DECIPHer Prifysgol Caerdydd. Nod y cydweithrediad oedd helpu defnyddwyr i weld rhywfaint o ddata arolwg Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) ar lefel ddaearyddol is nag erioed o’r blaen. Mae’r dangosfwrdd yn cynnwys 32 o destunau gwahanol ar gyfer tair blynedd o’r arolwg (2017, 2019 a 2021), gyda darluniau ar gael ar gyfer rhywedd, oed, cyfoeth teulu a lefelau daearyddol gwahanol. Mae DECIPHer hefyd wedi rhyddhau Adroddiad Cenedlaethol yn cynnwys amrywiaeth ehangach o ddata arolwg mwyaf diweddar SHRN yn 2021 ar lefel Cymru.

Gyda’i gilydd, mae’r ddau gynnyrch yn rhoi golwg fanwl ar iechyd a lles myfyrwyr mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth am yr arolwg ewch i wefan SHRN