Ar y dudalen hon:
- Cyd-destu
- Materion byd-eang
- Deddfwriaeth a pholisi Cymru
- Iechyd yng Nghymru
Mae nifer o faterion allweddol wedi arwain sut rydym wedi datblygu ein strategaeth.
Mae Agenda ar gyfer Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig 2030 a'i Nodau Datblygu Cynaliadwy wedi chwarae rhan fawr wrth ddatblygu ein strategaeth ac maent wedi parhau i ddylanwadu arnom. Rydym am sicrhau y gall pawb gyflawni eu hiechyd a'u llesiant gorau. Mae'r Agenda yn darparu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer deall y cysylltiadau rhwng camau gweithredu brys i roi terfyn ar dlodi ac amddifadedd arall a'r angen am y camau hyn, ynghyd â chamau gweithredu i wella iechyd ac addysg, lleihau anghydraddoldeb a mynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae hyn yn cyd-fynd yn agos â'r dull Iechyd Cyfunol byd-eang, sy'n cydnabod bod cysylltiad agos rhwng iechyd pobl, anifeiliaid ac ecosystemau, eu bod yn dibynnu ar ei gilydd a bod angen eu cydbwyso'n gynaliadwy.
Mae sawl darn o ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus allweddol wedi dod i rym yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, yr ydym yn eu cefnogi ac sydd wedi llunio ein strategaeth. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn herio cyrff y sector cyhoeddus i ystyried effeithiau tymor hwy eu penderfyniadau, a chynorthwyo mwy o ffocws ar atal anghydraddoldebau a mynd i'r afael â nhw. Mae'r ddeddfwriaeth yn cynnwys:
Mae Cymru Iachach (2018) yn nodi cynlluniau ar gyfer y weledigaeth hirdymor i sicrhau bod ‘gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu drwy un system gyfan ddi-dor’ yng Nghymru, sy'n canolbwyntio ar iechyd a llesiant ac atal salwch. Ei nod yw ateb heriau iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol, gan gynnwys poblogaeth sy'n heneiddio a newidiadau o ran ffordd o fyw.
Mae ein blaenoriaethau hefyd wedi'u harwain gan flaenoriaethau'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer GIG Cymru, yn enwedig y cymorth a'r arbenigedd iechyd cyhoeddus y gallwn eu cyfrannu at y system ehangach. Bydd hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod canlyniadau ansawdd, diogelwch, atal, ac iechyd da wrth wraidd y GIG yng Nghymru. Rhaid i ni hefyd ystyried ein dyletswyddau cyfreithiol, gan gynnwys ein rôl fel ymatebwr categori 1 (asesu ac ymdrin ag argyfyngau).
Mae pandemig Covid-19 wedi cael effeithiau sylweddol ar bobl Cymru, ac mae ei ganlyniadau cymdeithasol ac economaidd wedi'u teimlo'n anghyfartal ar draws ein cymdeithas. Maent wedi effeithio'n anghymesur ar y rhai a oedd eisoes â'r anghenion iechyd a chymdeithasol mwyaf. Yng Nghymru, mae disgwyliad oes a disgwyliad oes iach wedi methu cynyddu dros y degawd diwethaf, ac rydym yn parhau i weld anghydraddoldebau iechyd amlwg a pharhaus.
Fel arfer, mae pobl sy'n byw yn rhannau tlotaf Cymru eisoes yn marw dros chwe blynedd yn gynharach na'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Bydd yr argyfwng costau byw presennol yn ychwanegu at yr hyn a oedd eisoes yn wahaniaethau cynyddol rhwng y cefnog a'r llai cefnog.
Mae ‘Ymateb i Her Driphlyg Brexit, Covid-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd o ran iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru’ yn dangos bod y tair her hyn wedi cael effaith sylweddol ar bobl Cymru. Er enghraifft, mae Brexit, Covid-19 a newid hinsawdd wedi effeithio ar gyflogaeth, masnach a ffactorau eraill sy'n effeithio ar iechyd pobl, fel y defnydd o alcohol, cost bwyd, a llesiant meddyliol.
Mae Cymru yn wlad:
Mae'r wybodaeth hon a'n dealltwriaeth o iechyd yng Nghymru wedi dylanwadu ar ein strategaeth a sut rydym wedi penderfynu ar ein blaenoriaethau. Ein blaenoriaethau a'r camau gweithredu a gymerwn o dan bob un ohonynt yw ein hymateb i'r heriau hyn. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r wybodaeth ddiweddaraf am iechyd cyhoeddus i'n helpu i asesu'r effaith rydym yn ei chael ac addasu lle y bo angen.