- Pwy sy'n ei chael a pha mor ddifrifol ydyw?
- Triniaeth
- Atal
- Data
Mae'r frech goch yn salwch firaol hynod o heintus sy'n cael ei ddal trwy gysylltiad uniongyrchol â pherson heintiedig neu drwy'r aer o ddefnynnau beswch a thisian.
Mae’r symptomau’n cynnwys twymyn, symptomau tebyg i annwyd, blinder, conjynctifitis a brech frowngoch amlwg.
Mae’r frech goch yn un o nifer o glefydau hysbysadwy yn y DU. Mae’n rhaid i unrhyw feddyg sy’n amau bod claf yn dioddef o’r frech goch roi gwybod am hynny yn ôl y gyfraith. Gellir atal haint y frech goch drwy frechlyn hynod effeithiol a diogel sy'n rhan o imiwneiddio'r frech goch-mump-rwbela (MMR).
Mae’r frech goch yn effeithio ar blant ifanc yn bennaf, ond gall gael ei dal gan bobl o bob oedran. Bydd cael y frech goch unwaith fel arfer yn rhoi imiwnedd gydol oes rhag ei dal eto.
Gall y frech goch fod yn glefyd difrifol iawn ac achosi cymhlethdodau difrifol, sydd hyd yn oed yn rhoi bywyd yn y fantol. Yn y DU, mae cymhlethdodau yn eithaf cyffredin hyd yn oed ymysg pobl iach a bydd tuag 20% o’r achosion sy’n cael eu hadrodd o’r frech goch yn dioddef un cymhlethdod neu fwy.
Mae cymhlethdodau yn fwy cyffredin ymysg plant o dan 5 oed, pobl sydd â systemau imiwnedd gwan, plant sydd â diet gwael ac oedolion. Mae dal y frech goch yn ystod beichiogrwydd yn gallu achosi cam-esgor, esgor cyn-amser neu faban sydd â phwysau geni isel.
Cyn cyflwyno brechlyn y frech goch ym 1968, roedd tua 100 o blant y flwyddyn yn marw o’r clefyd yng Nghymru a Lloegr.
Nid oes triniaeth benodol ar gyfer y frech goch. Dylid seilio triniaeth ar liniaru symptomau. Oherwydd bod y frech goch yn cael ei hachosi gan firws, nid yw gwrthfiotigau’n effeithiol, ond gallant gael eu rhoi ar bresgripsiwn os oes haint bacteriol eilaidd yn datblygu.
Dylid holi meddyg os yw’r frech goch yn cael ei hamau a dylai unrhyw un sydd â’r frech goch gael eu monitro’n ofalus am gymhlethdodau. Mae’n bosibl y bydd angen triniaeth ysbyty petai cymhlethdodau difrifol yn datblygu.
Gall y frech goch gael ei hatal gan frechlyn hynod effeithiol a diogel. Mae hwn yn rhan o imiwneiddiad y frech goch-clwy’r pennau-rwbela (MMR).