Rydym yn gweld cynnydd mewn achosion o'r Dwymyn Goch eleni ac mae'n cyflwyno ei hun yn gynharach na'r arfer. Mae hyn yn debygol o fod o ganlyniad i'r ffaith bod plant yn fwy ynysig yn ystod pandemig y Coronafeirws, a bellach yn ôl mewn lleoliadau cymdeithasol yn amlach. Yn anffodus, bydd cynnydd mewn achosion o'r Dwymyn Goch yn arwain at ragor o achosion o'r iGAS sy'n llawer mwy prin.