Neidio i'r prif gynnwy

Pwy all fod yn rhan o'r Panel?

Mae preswylwyr yng Nghymru sy’n 16 oed a hŷn yn cael eu gwahodd i ymuno â Phanel Iechyd Cyhoeddus Amser i Siarad.

Bydd y Panel yn cynnwys 2,500 o breswylwyr sy’n adlewyrchu poblogaeth Cymru. Mae arnom angen ystod amrywiol o breswylwyr o bob rhanbarth o Gymru i gymryd rhan er mwyn sicrhau ein bod yn casglu ystod eang o safbwyntiau.

Dim ond un aelod o bob cartref all fod yn rhan o’r Panel.

Os nad ydych yn gallu cymryd rhan, rhowch wybod i ni os oes gan rywun arall yn eich cartref ddiddordeb a gallwn edrych i weld a ydynt yn cyfateb i’r grwpiau rydym yn chwilio.