Neidio i'r prif gynnwy

Pa gwestiynau a gaiff eu gofyn yn yr arolygon?

Gofynnir cwestiynau i chi am ystod o bynciau iechyd cyhoeddus. Diffinnir iechyd cyhoeddus fel “gwyddor diogelu a gwella iechyd teuluoedd a chymunedau lle maent yn byw, yn dysgu, yn gweithio ac yn chwarae”.

Mae hyn yn golygu y gallai’r pynciau y gofynnir i chi amdanynt fod yn unrhyw beth a allai effeithio ar eich iechyd neu iechyd pobl yng Nghymru, megis ymddygiadau iechyd, cyflogaeth, costau byw, newid yn yr hinsawdd, coronafeirws, iechyd meddwl, tai neu’r gwasanaethau y gallech eu defnyddio.

Gofynnir i chi hefyd rywfaint o wybodaeth gyffredinol amdanoch chi, eich iechyd ac ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd er mwyn ein helpu i ddeall mwy am eich barn a’ch agweddau. Nid oes unrhyw atebion cywir nac anghywir, ac ni fydd unrhyw atebion a roddwch yn effeithio ar unrhyw wasanaethau y byddwch yn eu defnyddio.