Neidio i'r prif gynnwy

A oes unrhyw fanteision/risgiau o fod yn rhan o'r Panel?

Nid oes unrhyw risgiau disgwyliedig o gymryd rhan yn y Panel. Bydd yr holl ddata a gesglir fel rhan o’r Panel yn cael eu storio’n ddiogel. Ni fydd eich data personol (e.e. enw) yn cael eu storio’n uniongyrchol gyda’r atebion a roddwch i’r arolwg (byddant yn cael eu rhoi dan ffugenw). Bydd pob aelod o’r panel yn cael cod adnabod unigryw a gynhyrchir ar hap, a bydd hwnnw’n cael ei neilltuo i’ch atebion.

Drwy gymryd rhan yn y Panel, byddwch yn helpu i roi llais i breswylwyr yng Nghymru o fewn polisïau ac arferion sy’n ymwneud ag iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Dyma fyddai eich cyfle i ddweud eich dweud. Rydym yn gobeithio hefyd y byddai cymryd rhan yn y Panel yn gwella eich gwybodaeth am wahanol bynciau iechyd cyhoeddus a allai fod o ddiddordeb i chi.