Mae Elizabeth* yn glinigydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac yn ddiweddar rhoddodd enedigaeth i fachgen bach iach, a chafodd ei dau frechlyn Coronafeirws yn ystod ei beichiogrwydd.
Cyn iddi wneud hynny, gwnaeth ymchwil drylwyr a'i helpodd i benderfynu bod y brechlynnau'n ddiogel ac yn ddull effeithiol iawn o'i hamddiffyn hi a'i babi rhag y Coronafeirws a'i gymhlethdodau difrifol.
Meddai Elizabeth: “Fel gweithiwr gofal iechyd rheng flaen gyda phlentyn bach yn y feithrinfa, roedd yn amlwg i mi bod y Coronafeirws yn fygythiad i mi a'm babi a, drwy gael y brechlyn, gallwn helpu i leihau'r bygythiad hwnnw. Roedd yn golygu fy mod yn gallu gweithio am gyfnod hirach a chefnogi fy nghydweithwyr mewn cyfnod prysur iawn a hefyd peidio â gorfod poeni am fy merch yn dod adref o'r feithrinfa a rhoi'r Coronafeirws i mi.
“Cyn cael fy mrechlyn Coronafeirws, fe wnes i lawer o'm hymchwil fy hun, o ffynonellau gwyddonol y gellir ymddiried ynddynt, i'm helpu i wneud penderfyniad gwybodus. Siaradais hefyd â llawer o fenywod mewn sefyllfa debyg i mi drwy fforymau dibynadwy, a oedd yn hynod o ddefnyddiol. Mae llawer o ymchwil sydd wedi dangos bod dal Coronafeirws tra'n feichiog, yn enwedig yn y tri mis olaf, yn gallu bod yn beryglus i fenywod beichiog a'u babi heb ei eni felly roeddwn yn falch o allu gwneud rhywbeth i leihau'r bygythiad hwn.
“I unrhyw un sy'n feichiog ac sy'n ansicr ynghylch cael y brechiad, byddwn wir yn eich annog i siarad â gweithwyr meddygol proffesiynol ac eraill mewn sefyllfa debyg fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus i chi a'ch teulu. I mi, roeddwn yn teimlo'n freintiedig iawn ac yn ffodus o allu cael y brechlyn gan ei fod wedi rhoi tawelwch meddwl i mi fy mod yn helpu i amddiffyn fy anwyliaid.”
*Mae'r enwau wedi'u newid i ddiogelu preifatrwydd.