Amddiffyn plant a phobl ifanc gyda chwistrell syml yn y trwyn
Gwybodaeth am y ffliw i blant a phobl ifanc yn 2022/23
5 rheswm i frechu eich plentyn rhag y ffliw
- Diogelu eich plentyn
Bydd y brechiad yn helpu i ddiogelu eich plenty rhag cymhlethdodau difrifol y ffliw, fel niwmonia.
- Eich diogelu chi, eich teulu a’ch ffrindiau
Bydd brechu eich plentyn rhag y ffliw yn helpu i ddiogelu eraill, yn enwedig os ydynt yn agored i niwed o gymhlethdodau’r ffliw.
- Chwistrell yn y trwyn yw hwn
Mae’r rhan fwyaf o blant yn cael chwistrell sydyn a di-boen ac nid ydynt yn cael eu heffeithio ganddo.
- Mae’n well na chael y ffliw
Mae salwch y ffliw yn amhleserus a gall fod yn ddifrifol i rai plant. Mae brechiadau’r ffliw yn ddiogel ac maent wedi cael eu rhoi i filiynau o blant ym mhob cwr o’r byd.
- Osgoi colli pethau
Pan mae plant yn cael y ffliw, maent yn colli’r ysgol neu gyfleoedd pwysig i ddatblygu, ac efallai y bydd angen i rieni gymryd amser o’r gwaith neu wneud trefniadau gofal plant eraill.
Cwestiynau cyffredin