Ar y dudalen
Mae haint y rotafeirws yn achosi gastroenteritis acíwt. Mae’n lledaenu yn bennaf ar ffurf ysgarthol-geneuol o berson i berson. Er bod nifer y marwolaethau'n isel gyda thriniaeth gefnogol ddigonol, gall fod yn angheuol lle nad oes ailhydradu ar gael.
Mae brechlyn y rotafeirws, Rotarix, yn frechlyn byw wedi'i wanhau sy’n cael ei roi drwy’r geg.
Mae Rotarix yn amddiffyn rhag gastroenteritis oherwydd seroteipiau rotafeirws G1P, G2P, G3P, G4P, G9P, sy'n cyfrif am 97% o'r mathau o rotafeirws sy'n cylchredeg yn y DU.
Mae'r llyfr gwyrdd ar rotafeirws yn disodli'r crynodeb o nodweddion cynnyrch.
Mae'r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau sy'n rheolaidd a'r rhai sydd ddym yn rheolaidd.
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Joint Committee on Vaccination and Immunisation - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. rotafeirws).
Rhaglenni Imiwneiddio Cenedlaethol Newydd a Chyflwyno Rhaglen y Rotafeirws (Mawrth 2013)
Gellir cael mynediad i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer y brechlynnau ac afiechydon drwy'r dudalen E-ddysgu.
Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi.
Rotafeirws: y llyfr gwyrdd, pennod 27b
Rhaglen frechu'r rotafeirws: Gwybodaeth i ymarferwyr gofal iechyd (UKHSA)
Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer y brechlyn rotafeirws ar y dudalen Cyfarwyddiadau grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau.