Neidio i'r prif gynnwy

Meningococol grŵp B (MenB) - Gwybodaeth i weithwyr iechyd

Ar y dudalen

 

Cefndir

Mae meningococol yn afiechyd hysbysadwy, sy'n ymddangos fel arfer naill ai fel llid yr ymennydd neu septisemia, neu gyfuniad o'r ddau, neu lid yr amrannau. Yn y DU, mae haint meningococol yn cael ei achosi gan amlaf gan y bacteriwm Neisseria meningitidis grŵp B, er y gall serogrwpiau eraill achosi afiechyd hefyd. Mae'r achosion ar eu huchaf ymhlith plant o dan flwydd oed, a hefyd ieuenctid rhwng 16 a 24 oed. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu gan ddafnau resbiradol ac mae ganddi gyfnod deor o ddau i saith diwrnod.

Y brechlyn

Ym mis Medi 2015 cyflwynwyd brechlyn protein meningococol B (4CMenB) pedair elfen Bexsero® ar gyfer babanod dwy, pedair a 12 i 13 mis oed fel rhan o’r rhaglen plentyndod arferol.

Mae Bexsero® yn frechlyn anweithredol i’w chwistrellu sy’n dod mewn chwistrell wedi'i lenwi ymlaen llaw. Mae Bexsero® yn frechlyn wedi'i arsugnu gan elfennau rDNA.

Mae'r brechlyn MenB yn effeithiol yn erbyn heintiau difrifol a achosir gan facteria meningococol grŵp B. Gall y brechlyn hefyd amddiffyn rhag haint gan grwpiau capsiwlaidd heblaw grŵp B.

Crynodeb o nodweddion cynnyrch

Mae’r canllawiau amserlen ym mhennod 22 y llyfr gwyrdd yn disodli'r crynodeb o nodwddion cynnyrch.

Mae'r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau sy'n rheolaidd a'r rhai sydd ddym yn rheolaidd.

 

Canllawiau

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.

Joint Committee on Vaccination and Immunisation - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. meningococol).

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru

Paracetamol ar gyfer atal a thrin gwres ar ôl imiwneiddio rhag afiechyd Meningococol B (Awst 2015)

Cyflwyno Imiwneiddiad MenB i Fabanod (Gorffennaf 2015)

 

Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi

Gellir cael mynediad i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau ac afiechydon drwy'r dudalen E-ddysgu.

Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi.

 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Meningococal – y llyfr gwyrdd, pennod 22

Meningococal B: Gwybodaeth am frechlynnau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd professiynol (UKHSA)

Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau

Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar y dudalen Cyfarwyddiadau grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau.

Mwy o adnoddau a gwybodaeth clinigol

 

Data a goruchwyliaeth