Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.  

Eryr - Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol

Ar y dudalen hon

 

Cefndir

Mae'r eryr (herpes zoster) yn digwydd pan fydd feirws varicella zoster (VZV), sy'n achosi brech yr ieir, yn dod yn actif eto yn ddiweddarach mewn bywyd. Ar ôl i rywun gael brech yr ieir (yn ystod plentyndod fel arfer), mae'r feirws yn aros ynghwsg yn ganglia synhwyraidd y nerfau dorsal. Gall adfywiocáu flynyddoedd neu hyd yn oed ddegawdau yn ddiweddarach, gan achosi’r eryr. Pan fydd y feirws segur yn dod yn actif eto, gall achosi brech boenus gyda phothelli. Mae'r hylif o'r pothelli hyn yn heintus a gall achosi brech yr ieir mewn pobl nad ydynt yn imiwn.  

Gall cyfnod acíwt (cychwynnol) poen yr eryr gael ei ddilyn gan gyfnod hir o niwralgia ôl-herpetig (PHN), sydd hefyd yn fwy cyffredin ymhlith yr henoed.   

Gall yr eryr daro ar unrhyw oedran, ond mae'n fwy cyffredin wrth i bobl fynd yn hŷn ac mewn pobl sy’n ddifrifol imiwnoataliedig. Mae’r siawns o gael yr eryr yn ystod eich oes tua 1 mewn 4.  

Bob blwyddyn, caiff tua 550 o achosion o’r eryr eu diagnosio gan feddygon teulu fesul 100,000 o bobl 65 oed a hŷn yng Nghymru (data o Audit+, 2025).     

Yng Nghymru, mae tua 60 o achosion o Niwralgia Ôl-herpetig (PHN) yn cael eu diagnosio gan feddygon teulu fesul 100,000 o bobl 65 oed a hŷn bob blwyddyn (data o Audit+, 2025).    

Rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, cafodd 145 o bobl 18 oed a hŷn eu derbyn i'r ysbyty gyda'r eryr (data o Gronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW) (2025)). 

Cyn cyflwyno'r brechlyn rhag yr eryr, amcangyfrifir bod tua un o bob 1,000 achos o’r eryr mewn oedolion 70 oed a hŷn yn arwain at farwolaeth. Fodd bynnag, oherwydd natur y boblogaeth a'r risg o cydafiacheddau, efallai na fydd rhai marwolaethau a gofnodwyd fel rhai sy'n gysylltiedig â'r eryr yn cael eu hachosi'n uniongyrchol gan y clefyd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Llyfr Gwyrdd Pennod 28a am gwybodaeth yr eryr (safle allanol, Saesneg yn unig).

Cyflwyno rhaglen frechu'r eryr yng Nghymru 

Ar 1 Medi 2013, cyflwynodd Cymru raglen frechu'r eryr ar gyfer pobl 70-79 oed. Cyflwynwyd y rhaglen fesul cam, gan ddechrau gyda'r rhai a oedd yn 70 a 79 oed yn y flwyddyn gyntaf. O 1 Ebrill 2019, daeth unigolion a oedd yn 70 oed ac nad oeddent wedi cael brechlyn yr eryr o’r blaen yn gymwys. Maent yn parhau i fod yn gymwys hyd at eu pen-blwydd yn 80 oed.   

Diweddariadau i raglen brechu rhag yr eryr GIG Cymru 

Newidiadau allweddol o 1 Medi 2023 

Ehangodd GIG Cymru'r cymhwysedd ar gyfer brechlyn yr eryr Shingrix® i gynnwys: 

  • Pob unigolyn difrifol imiwnoataliedig sy'n 50 oed a hŷn, heb derfyn oedran uchaf. Rhoddwyd blaenoriaeth i'r grŵp hwn gael brechiad dal i fyny yn ystod y flwyddyn gyntaf.  

  • Unigolion imiwnogymwys o 60 oed (70 oed yn flaenorol), i’w gyflwyno’n raddol dros 10 mlynedd.  

Mae angen dau ddos o Shingrix® ar bob unigolyn cymwys.  

Penderfynwyd bod angen dull graddol i newid o’r rhaglen Zostavax® a gynigwyd fel mater o drefn i unigolion 70 oed, i’r rhaglen Shingrix® a gynigir fel mater o drefn i unigolion 60 oed. Mae'r tabl isod yn rhoi trosolwg o'r dull graddol. 

Trosolwg o’r rhaglen frechu rhag yr eryr fesul cam o 1 Medi 2023:   

Cyfnodau gweithredu 

Hyd

Cymwys ar gyfer y dos cyntaf  

Cam Un  

1 Medi 2023 i 31 Awst 2028 (5 mlynedd)   Dylai’r rhai sy’n troi’n 65 neu’n 70 oed yn ystod y cyfnod hwn gael eu galw i mewn ar/ar ôl eu pen-blwydd yn 65 neu’n 70 oed*   

Cam Dau

1 Medi 2028 i 31 Awst 2033 (5 mlynedd)   Dylai’r rhai sy’n troi’n 60 neu’n 65 oed yn ystod y cyfnod hwn gael eu galw i mewn ar/ar ôl eu pen-blwydd yn 60 neu 65*   
Cynnig arferol parhaus   1 Medi 2033 ymlaen    Dylai’r rhai sy’n troi’n 60 oed gael eu galw i mewn ar/ar ôl eu pen-blwydd yn 60 oed*   

*mae’r rhai a ddaeth yn gymwys, ac a fethodd gael eu brechu, yn parhau’n gymwys tan eu pen-blwydd yn 80 oed.   

Newidiadau allweddol o fis Awst 2025 

Ym mis Mehefin 2025, cafodd Llywodraeth Cymru gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (safle allanol, Saesneg yn unig) (JCVI) i ehangu cymhwysedd brechlyn rhag yr eryr ymhellach. O fis Awst 2025 ymlaen, bydd y brechlyn rhag yr eryr yn cael ei gynnig i’r canlynol: 

  • pob unigolyn difrifol imiwnoataliedig sy'n 18 oed a hŷn (50 oed a hŷn yn flaenorol).   

Y rhaglen frechu rhag yr eryr bresennol yng Nghymru 

Yng Nghymru, cynigir y rhaglen frechu rhag yr eryr fel a ganlyn:  

  • Brechiad rheolaidd 
    Wedi'i gyflwyno fesul cam, gan ddechrau gydag unigolion sy'n troi'n 65 neu'n 70 oed.  

DS: Dylid cynnig dau ddos o Shingrix® i unigolion sydd wedi cael y brechlyn Zostavax® o'r blaen ac sydd yn ddiweddarach yn mynd yn ddifrifol imiwnoataliedig.  

Nid oes angen ailadrodd y cwrs os yw unigolyn eisoes wedi cael dau ddos o Shingrix® ac yna'n mynd yn ddifrifol imiwnoataliedig. I gael manylion pellach, cyfeiriwch at Gwestiwn 10 ar y safle SharePoint Cwestiynau Cyffredin - yr Eryr 

Rydym ar hyn o bryd yng ngham 1 y rhaglen frechu'r Eryr.  

Mae'r tabl isod yn crynhoi'r unigolion sy'n gymwys i gael y brechlyn rhag yr eryr:  

Oedran yr unigolyn  

 

A yw’r unigolyn yn ddifrifol imiwnoataliedig?  Pryd fyddan nhw’n cael y brechlyn Shingrix®?   
dos 1af   2il ddos

Wedi troi yn 65 neu 70 mlynedd^ (ar/ar ôl 1 Medi bob blwyddyn o 2023 i 2028)   

 

Nac ydy  

65 oed   

70 oed 

Rhwng 6 a 12 mis ar ôl y dos cyntaf  

71 – 79 oed nad ydynt wedi cael brechlyn yr eryr  

 

Nac ydy  

Mae unigolion 70-79 oed yn gymwys tan eu pen-blwydd yn 80 oed^^  Rhwng 6 a 12 mis yn dilyn y dos cyntaf ^^^  
18 oed a hŷn (dim terfyn oedran uchaf) 

Ydy^^^^     

Ar neu ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed   Rhwng 8 wythnos a 6 mis ar ôl y dos cyntaf ^^^^^  

^ Os yw unigolyn eisoes yn 65 oed neu'n hŷn ond heb fod yn 80 oed eto yn ystod cam un, gall Practisiau Meddygon Teulu ddarparu'r brechlyn ar hap os yn bosibl. 

^^ Mae pob unigolyn imiwnogymwys yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer y brechlyn rhag yr eryr tan ei ben-blwydd yn 80 oed.  

^^^ Pan fydd unigolyn wedi troi’n 80 oed ar ôl ei ddos cyntaf o Shingrix®, dylid darparu ail ddos cyn pen-blwydd yr unigolyn yn 81 oed er mwyn gwblhau’r cwrs.  

^^^^ Crynhoir yr unigolion y dylid cynnig Shingrix® iddynt ymhlith y grŵp oedran hwn ym mhennod 28a yn y Llyfr Gwyrdd - Eryr (herpes zoster) (safle allanol, Saesneg yn unig)  

^^^^^ Unwaith y bydd unigolion sydd ag imiwnedd gwan iawn wedi derbyn 2 ddos o Shingrix®, ni fydd angen eu hail-frechu. 


Cam 2 (1 Medi 2028 tan 31 Awst 2033):  

Yn ystod Cam 2, dylid cynnig Shingrix® i'r rhai sy'n troi’n 60 a 65. Bydd Shingrix® hefyd yn parhau i fod ar gael i unigolion imiwnogymwys cymwys nad ydynt wedi cael eu brechu hyd nes y byddant yn 80 oed.  

Bydd Shingrix® yn parhau i gael ei gynnig i unigolion difrifol imiwnoataliedig o 18 oed ymlaen. Dylai unigolion dros 18 oed sy’n cael diagnosis o imiwnoataliaeth difrifol gael eu brechu â Shingrix® os nad ydynt eisoes wedi cael eu brechu. Dylid gwahodd yr unigolion hyn i gael eu brechu cyn pen 12 wythnos o ddod yn gymwys (fel yr amlinellir ym Mhennod 28a y Llyfr Gwyrdd  - Yr Eryr (safle allanol, Saesneg yn unig) a WHC/2023/024 - Newidiadau i frechiadau yn erbyn yr eryr (safle allanol)).   

Cynnig rheolaidd o 1 Medi 2033:   

O 1 Medi 2033, bydd Shingrix® yn cael ei gynnig fel mater o drefn i:  

  • bob unigolyn imiwnogymwys yn 60 oed, ac  
  • unigolion cymwys difrifol imiwnoataliedig sy'n 18 oed neu'n hŷn.   

Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd i gael brechlyn yr eryr i'w chael yn yr adran 'Arweiniad' isod.    

Y brechlyn 

  • Mae Shingrix® (emc) (safle allanol, Saesneg yn unig) yn frechlyn nad yw'n fyw. 
  • Mae angen dau ddos ​​o Shingrix. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael cynnig yr ail ddos ​​o Shingrix o leiaf 6 i 12 mis ar ôl y dos cyntaf. Fodd bynnag, dylai unigolion difrifol imiwnoataliedig gael eu hail ddos o Shingrix wyth wythnos ar ôl eu dos cyntaf.   
  • Dylid rhoi Shingrix® drwy bigiad mewngyhyrol, yn ddelfrydol yng nghyhyr deltoid y fraich uchaf. Ni argymhellir ei weinyddu’n isgroenol. 

Shingrix® yw'r unig frechlyn sydd ar gael ar gyfer rhaglen yr eryr.   

Ceir rhagor o wybodaeth am y brechlyn yn y Llyfr Gwyrdd Pennod 28a - Yr eryr (safle allanol, Saesneg yn unig)  

Crynodeb o nodweddion y cynnyrch   

Mae'n bwysig rhoi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir ar ôl awdurdodi'r cynnyrch meddyginiaethol. Mae'n galluogi’r cydbwysedd budd/risg y cynnyrch meddyginiaethol i gael ei fonitro’n barhaus. Dylech roi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir i frechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn mhra.gov.uk/yellowcard (safle allanol, Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yp). 

Mae canllawiau yn y Llyfr Gwyrdd Pennod 28a - Yr eryr (safle allanol, Saesneg yn unig) yn disodli'r SmPC.   

Mae'r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am frechiadau arferol ac anarferol.   

Cyd-weinyddu brechlynnau  

Nid yw Shingrix® yn frechlyn byw. Gellir ei roi ar yr un pryd â brechlynnau eraill, yn cynnwys y brechlyn niwmococol (PPV-23). Fodd bynnag, mae twymyn a chryndod wedi cael eu hadrodd yn fwy cyffredin pan roddir Shingrix® ar yr un pryd â PPV-23. 

Arweiniad

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.  

Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig) (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. Herpes zoster)  

 

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru

 

 

Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi

Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau a chlefydau trwy'r dudalen E-ddysgu.  

Mae rhagor o wybodaeth am hyfforddiant imiwneiddio ac adnoddau ar gael ar dudalenAdnoddau a Digwyddiadau Hyfforddiant.  

 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs)

Gellir dod o hyd i dempledi brechlyn PGD a Dogfennau Cynghori ar gyfer Cymru ar dudalen Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru (safle allanol).

 

Rhagor o adnoddau a gwybodaeth clinigol

 

 

Data a gwyliadwriaeth