Mae llawer o adnoddau ar-lein am ddim i'ch helpu i fod yn egnïol a chadw'n heini ar yr adeg hon. Byddwn yn eich cysylltu â gwefannau sydd wedi casglu'r dulliau gorau a mwyaf diogel sydd am ddim i chi eu defnyddio.
Bydd yr adnoddau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o alluoedd ac oedrannau, felly edrychwch arnynt a gobeithio y bydd rhywbeth y byddwch yn ei fwynhau.
Efallai fod gennych rai awgrymiadau i'w rhannu ar sut rydych yn cymell eich hun i ymarfer corff, a allai fod yn ddefnyddiol i bobl eraill ac os ydych yn gwybod am ddulliau eraill am ddim sydd wedi gweithio i chi - rhowch wybod i ni, byddwn yn eu rhannu ag eraill. Byddai’n wych gallu cofnodi'r holl frwdfrydedd a chreadigrwydd sy'n cadw pobl ledled Cymru yn gorfforol egnïol a rhannu hyn â chymaint ohonoch â phosibl.
Mae Chwaraeon Lloegr wedi lansio ymgyrch Join the Movement a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, gan roi cyngor a dulliau i helpu pobl i gadw'n gorfforol egnïol wrth i'r wlad ddelio â'r achos o'r coronafeirws. Mae'r wefan yn cynnwys gweithgareddau a rhaglenni i bob oedran a phob gallu .
Chwarae Cymru
Mae Chwarae Cymru yn elusen annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n gweithio i godi ymwybyddiaeth o'r angen a'r hawl sydd gan blant a phobl ifanc i chwarae. Ar adeg argyfwng COVID19, mae Chwarae Cymru wedi tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae i iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc. Mae gwefan Chwarae Cymru yn rhoi cyngor a chymorth i rieni a dulliau i roi syniadau newydd i rieni ar sut i gefnogi chwarae eu plant gartref.
Y GIG
Mae gan wefan y GIG rai dolenni defnyddiol ar gyfer ymarfer corff gartref.
Y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19
Cofiwch droi at ffynonellau gwybodaeth dibynadwy bob amser:
Llywodraeth y DU: Cyngor ar Coronavirus
Iechyd Cyhoeddus Cymru: Gwybodaeth Ddiweddaraf am Coronavirus