Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio eu hymgyrch #CymruActif i gadw Cymru’n symud yn ystod argyfwng y Coronafeirws. Mae arbenigwyr, athletwyr ac ambell wyneb cyfarwydd o bob rhan o’r byd chwaraeon yng Nghymru, wedi dod at ei gilydd i ddarparu fideos ymarfer, cynlluniau sesiynau, cymhelliant, ryseitiau maethlon a llawer, llawer mwy ar gyfer y genedl.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru hefyd wedi lansio ymgyrch o'r enw #InThisTogether sy'n cynnwys ymarferion cynhwysol y gallwch eu gwylio a chymryd rhan ynddynt gartref.
Beth am roi cynnig ar rai o'r sesiynau ymarfer isod a rhoi gwybod i ni sut rydych chi'n dod ymlaen trwy'r cyfryngau cymdeithasol.
Arghymellwyd gan y GIG, mae’r ymarferion hyn ar gyfer pobl sy’n newydd i ymarfer efallai a hefyd y rhai sydd eisiau dechrau’n araf cyn adeiladu eu ffitrwydd.
Ymarfer 10 munud gydag ymarferion syml sy'n cynnwys gwinwydden, stepio i fyny ac eistedd i sefyll.
Estynnwch am obennydd a'i ddefnyddio ar gyfer ymarferion amrywiol yn yr ymarfer 10 munud creadigol yma.
Gweithiwch eich craidd gydag ymarferion sy'n cynnwys planciau (penelinoedd i ddwylo) a phlanc ochr gostwng cluniau.
Yn cynnwys ymarferion gwthio i fyny gyda bag cefn, sgwats pistol a chyfnewidiadau llinyn y gar ffrwydrol.