Neidio i'r prif gynnwy

Fitamin D a COVID-19 Brîffio Proffesiynol

Fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, mae'n bosibl y byddwch yn derbyn cwestiynau ar fitamin D ar gyfer atal a thrin COVID-19.  Mae'r brîff hwn yn crynhoi'r dystiolaeth gyfredol, yn dilyn yr adolygiad llenyddiaeth a gynhaliwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN), a Public Health England (PHE)1,2.

Awgrymwyd cysylltiad rhwng fitamin D a COVID-19 oherwydd bod ffactorau sy'n gysylltiedig â statws fitamin D isel yn gorgyffwrdd â difrifoldeb ac achosion o COVID-19, megis oedran, ethnigrwydd a phreswylio mewn cartrefi gofal1. Credir bod fitamin D yn cymedroli ymateb y system imiwnedd. Felly, mae damcaniaeth yn bodoli sy'n awgrymu y gallai fitamin D chwarae rhan mewn COVID-19.1
 

Cefndir 

Mae gan fitamin D rôl sefydledig mewn iechyd cyhyrysgerbydol am ei bod yn rheoleiddio calsiwm a ffosffad3. Gall fitamin D atal y llechau ac osteomalasia, ac mae'n gysylltiedig â modiwleiddio'r system imiwnedd3. Mae ffynonellau bwyd sydd â fitamin D yn annigonol i'r mwyafrif o bobl. Prif ffynhonnell fitamin D yw synthesis mewndarddol yn y croen yn dilyn ymbelydredd uwchfioled (UV)-B3. Fel rheol, mesurir fitamin D fel 25-hydrocsifitamin D (25[OH]D)2. Diffinnir diffyg fitamin D fel lefelau 25[OH] D llai na 25nmol/litr2. Mae dau fath o fitamin D wedi'u trwyddedu yn y DU ar gyfer trin ac atal diffyg fitamin D: fitamin D3 (colecalsifferol) a fitamin D2 (ergocalsifferol)1

Adolygiad o'r dystiolaeth: fitamin D a COVID-19

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn datblygu canllawiau ar sail tystiolaeth ar gyfer ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys iechyd y cyhoedd4. Mae’r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth yn darparu argymhellion dietegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth5. Gofynnodd yr adolygiad tystiolaeth a gynhaliwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, Public Health England a’r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth dri chwestiwn, a ddangosir isod. Ar gyfer pob cwestiwn, cynhwyswyd yr holl fformwleiddiadau, dosau a rheoldrefnau o fitamin D1

Daeth yr adolygiad i'r casgliad nad oes tystiolaeth ddigonol i argymell atchwanegiad fitamin D gyda'r unig fwriad i atal trosglwyddiad SARS-CoV-2 neu drin COVID-192

1. Beth yw effeithiolrwydd clinigol a diogelwch atchwanegiad fitamin D ar gyfer trin COVID-19 mewn oedolion, pobl ifanc a phlant?

Nodwyd un astudiaeth o Sbaen. Roedd fitamin D yn gysylltiedig â chymhareb ods buddiol o 0.003 (95% CI 0.003-0.250). Graddiwyd yr astudiaeth o ansawdd isel iawn oherwydd ei maint bach (n=76); gwahaniaethau rhwng y ddau grŵp o ran cydafiacheddau cleifion; a’r ffaith fod pawb yn ymwybodol o natur y driniaeth a roddwyd. Defnyddiodd yr astudiaeth fformiwleiddiad na ddefnyddir yn gyffredin yn y DU ar ddosau uchel iawn. Mae gwahaniaethau mewn “gofal safonol” rhwng Sbaen a'r DU yn cyfyngu ar gyffredinoladwyedd1,2

2. Beth yw effeithiolrwydd clinigol a diogelwch atchwanegiad fitamin D ar gyfer atal haint SARS CoV2 (a COVID-19 yn dilyn hynny) mewn oedolion, pobl ifanc a phlant?

Ni nodwyd unrhyw astudiaethau cymwys1,2

3. A yw statws fitamin D yn gysylltiedig yn annibynnol â thueddiad i ddatblygu COVID-19, difrifoldeb COVID-19, a chanlyniadau gwaeth o ganlyniad i gael COVID-19 mewn oedolion, pobl ifanc a phlant?

Mae cysylltiad rhwng statws fitamin D isel a chanlyniadau difrifol o ganlyniad i gael COVID-191. Fodd bynnag, mae llawer o ffactorau risg yr un peth o ran fitamin D isel a salwch difrifol o COVID-19, ac felly ni ellir cadarnhau'r achosiaeth. Yn ogystal, mae fitamin D yn ymweithredydd cyfnod acíwt negyddol sy'n golygu bod lefelau'n lleihau yn ystod llid, y gellid eu gweld mewn achosion o COVID-192

Ystyriwyd bod ansawdd pob un o'r 13 astudiaeth a gynhwyswyd yn “isel iawn”, sy'n golygu bod unrhyw amcangyfrif o'r effaith yn ansicr iawn1,2. Roedd yr astudiaethau yn arsylwadol; ni chafwyd unrhyw dreialon rheoledig ar hap. Roedd y cyfyngiadau'n cynnwys risg uchel o fias, gwahaniaethau mewn ffactorau yr addaswyd ar eu cyfer, dryswch gweddilliol ac amrywiad mewn demograffeg poblogaeth. Gall defnyddio gwahanol brofion arwain at amrywiad o 15-20% yn y lefelau mesuredig o fitamin D3. Mesurwyd lefelau fitamin D ar wahanol adegau mewn gwahanol astudiaethau: yr adeg y cafodd unigolion eu derbyn i ysbyty, o fewn y 3-12 mis blaenorol, neu 10-14 blynedd cyn hynny1,2. Defnyddiodd dwy astudiaeth hanes atchwanegiad fitamin D ac ni fesurwyd y lefelau yn y gwaed. Dadansoddwyd lefelau fitamin D yn wahanol: gan ddefnyddio lefelau gwaed ar raddfa linellol, neu uwch-drothwy / is-drothwy (Dylid nodi bod y trothwyon yn amrywio yn yr astudiaethau).

Ymchwiliodd chwe astudiaeth i nifer yr achosion o COVID-19: dangosodd pedair gysylltiad sylweddol (dwy yn defnyddio graddfa linellol; un â throthwy o <50nmol/l; un yn defnyddio 75nmol/l fel trothwy). Ni chanfu dwy astudiaeth unrhyw gysylltiad, gan ddefnyddio graddfa linellol.

Ymchwiliodd saith astudiaeth i ddifrifoldeb COVID-19. Defnyddiwyd sawl dull o fesur canlyniadau. Ni chanfu dwy astudiaeth unrhyw gysylltiad rhwng lefelau fitamin D a dulliau mesur canlyniadau cyfansawdd; tra bod un arall (gan ddefnyddio trothwy <30nmol/l) wedi canfod cysylltiad sylweddol. Canfu un astudiaeth fod fitamin D <50nmol/l yn gysylltiedig â COVID-19 difrifol. Dangosodd astudiaeth arall nad oedd lefelau <75nmol/l yn gysylltiedig â gorfod mynd i'r ysbyty. Canfu dwy astudiaeth fod lefelau fitamin D is yn gysylltiedig â mwy o farwolaethau. Dangosodd astudiaeth arall fod yr atchwanegiad yn y flwyddyn cyn cael diagnosis o COVID-19 yn gysylltiedig â llai o farwolaethau, ond nad oedd atchwanegiad ar adeg y diagnosis yn fuddiol o'i gymharu â dim atchwanegiad. 

Yn olaf, ystyriodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal adolygiad y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth ar atchwanegiad fitamin D a heintiau acíwt y system anadlol (ac eithrio COVID-19). Dangosodd adolygiad a meta-ddadansoddiad systematig effaith amddiffynnol o 10-25 microgram (400-1000 o unedau) y dydd, ymhlith pobl 1-16 oed (Joliffe, 2020)1. Roedd cyfyngiadau'r astudiaeth hon yn cynnwys gwahaniaethau mewn rheoldrefnau fitamin D, y cyfranogwyr, y cyd-destun ac asesiad o ganlyniadau yn yr astudiaethau a gynhwyswyd. 

O ystyried y canfyddiadau anghyson hyn o nifer fach o astudiaethau heterogenaidd o ansawdd isel, nid yw'n bosibl argymell atchwanegiadau fitamin D at y diben o atal COVID-19. Fodd bynnag, mae treialon rheoledig ar hap sy'n ymchwilio i rôl atchwanegiad fitamin D wrth drin COVID-19 yn parhau a bydd y canllawiau'n cael eu diweddaru wrth gyhoeddi canlyniadau’r treialon1

Argymhellion ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 


•    Mae cyngor Iechyd y Cyhoedd yn aros yr un fath: argymhellir atchwanegiad fitamin D i bawb sy'n byw yn y DU er mwyn hybu iechyd cyhyrysgerbydol3,5. I'r mwyafrif o bobl, mae atchwanegiad rhwng mis Hydref a mis Mawrth yn ddigonol. Cynghorir atchwanegiad drwy gydol y flwyddyn i bobl sydd: 
•    Dan do y rhan fwyaf o'r amser (e.e preswylwyr mewn cartrefi gofal)
•    Yn gorchuddio eu croen pan fyddant y tu allan
•    Â chroen tywyllach, megis pobl o gefndiroedd Affricanaidd, Affricanaidd-Caribïaidd neu dde Asia2,3
•    Mae'r argymhelliad hwn hyd yn oed yn bwysicach yn ystod pandemig COVID-19 gan fod pobl yn treulio mwy o amser dan do na'r arfer. 
•    Argymhellir dos o 10 microgram (400 uned) y dydd i bawb 4 oed a hŷn, gan gynnwys menywod beichiog a menywod sy'n bwydo babanod ar y fron. Mae'r dos hwn yn effeithiol ar gyfer 97.5% o'r boblogaeth wrth atal diffyg fitamin D a chynnal lefelau 25[OH]D >25nmol/l, hyd yn oed pan fo amlygiad i UVB yn isel2,3,5
•    Gosodir terfyn uchaf y gall y corff ei oddef o 100 microgram (4000 uned) ar gyfer oedolion1,3.
•    Mae effeithiau andwyol dos uchel o fitamin D (dros 100 microgram bob dydd) yn cynnwys hypercalcaemia. Dylai cleifion â chyflyrau meddygol sy'n eu rhoi mewn mwy o risg o gael nam arennol neu hypercalcaemia drafod atchwanegiad fitamin D â'u gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ac ystyried cael eu monitro2

Cyfeiriadau

 
  1. NICE (2020) Vitamin D for COVID-19 [A] Evidence reviews for the use of vitamin D supplementation as prevention and treatment of COVID-19 [ar-lein] Ar gael o: https://www.nice.org.uk/guidance/ng187/evidence/evidence-reviews-for-the-use-of-vitamin-d-supplementation-as-prevention-and-treatment-of-covid19-pdf-8957587789 [Cyrchwyd 05.02.2021]
  2. NICE (2020) COVID-19 rapid guideline: vitamin D NICE guideline [NG187] [ar-lein] Ar gael o: https://www.nice.org.uk/guidance/ng187/chapter/Context [Cyrchwyd 04.02.2021]
  3. NICE, What we do [ar-lein] Ar gael o: https://www.nice.org.uk/about/what-we-do [Cyrchwyd 27.01.2021]
  4. [Cyrchwyd 05.02.2021]