Mae cartrefi da yn gallu gwella iechyd a lles; ond mae amodau gwael mewn cartrefi yn gallu niweidio iechyd pobl, ac yn enwedig mewn perthynas ag asthma, lleithder a llwydni.
I blant, mae'r effeithiau'n gallu para oes.
Dangosodd yr Arolwg Cyflwr Tai Cymru diweddaraf fod cyflwr tai ar draws y gwahanol fathau o ddeiliadaeth tai yng Nghymru wedi gwella er 2008. Mae gan y sector rhentu preifat gyfran uwch o dai o ansawdd gwael (lleithder neu beryglon eraill), ac yn gyffredinol mae tai cymdeithasol o ansawdd gwell na thai preifat. Mae rhagor o wybodaeth am gyflwr tai yng Nghymru ar gael yma: Arolwg Cyflwr Tai Cymru | LLYW.CYMRU
Roedd cartrefi yn y sector rhentu preifat yn fwy tebygol o fod yn anaddas. Mewn dros 50% o'r achosion, roedd y cartrefi anaddas wedi dirywio i gyflwr cyffredinol gwael hefyd.
Mae amodau gwael, lleithder a llwydni yn bennaf, mewn cartrefi yn dwysáu asthma, yn enwedig yn achos plant. Mewn rhai achosion, y cartrefi gwael sy'n achosi'r asthma.
Mae rhagor o wybodaeth am gartrefi ac asthma, yn ogystal ag effeithiolrwydd ymyraethau i fynd i'r afael â'r rhain, ar gael trwy fynd i ddogfen Poor Housing and Asthma Briefing.
Mae rhyw draean o'r holl anafiadau sy'n digwydd yn digwydd yn y cartref. Mae hynny'n rhannol oherwydd faint o amser rydyn ni'n ei dreulio gartref, ond hefyd oherwydd yr amrywiaeth eang o beryglon sy'n ein hwynebu yn y cartref.
Y grisiau yw'r lle mwyaf peryglus, gyda mwy na 25% o'r holl anafiadau yn y cartref yn digwydd yma, wedyn yr ardd a'r gegin.
I gael rhagor o wybodaeth fanwl, ewch i http://www.rospa.com/.Ceir gwybodaeth a data am anafiadau yng Nghymru ar ein tudalen we Anafiadau hefyd.
Gall effaith y tymheredd dan do gael effaith sylweddol ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl; gall effeithiolrwydd gwres amrywio o tua 82% yn y sector rhentu preifat i 95% yng nghartrefi perchen-feddianwyr.
Mae rhoi camau ar waith i wella effeithlonrwydd gwres ac ynni yn gallu gwella iechyd cyffredinol, iechyd meddwl ac iechyd anadlol, yn enwedig lle gellir targedu'r bobl hynny â gwres annigonol a'r rhai ag afiechydon anadlol cronig.
Roedd y gwelliannau o ran gwres yn gysylltiedig â chynnydd ym maint y lle y gellid ei ddefnyddio, yn gwella preifatrwydd ac yn gwella perthnasau cymdeithasol hefyd. Yn ogystal, gwelwyd lleihad yn nifer yr absenoldebau o'r gwaith ac o'r ysgol oherwydd salwch.
Ar y cyfan, mae gwelliannau o ran gwresogi yn gwella cyflwr y cartrefi (gan gynnwys lleithder, oerfel, llwydni, ansawdd yr aer, defnydd o danwydd a gwariant ar danwydd).
Ymhlith y gwelliannau a gyflawnwyd o ran gwres ac effeithlonrwydd ynni roedd gosod systemau gwresogi, inswleiddiad a ffenestri dwbl.
Ychydig o dystiolaeth sydd yna o effeithiau negyddol gwelliannau i gartrefi.