Neidio i'r prif gynnwy

Ystadegau swyddogol yn dangos effaith y pandemig ar gyfraddau goroesi canser

Cyhoeddig: 29 Tachwedd 2023

Roedd cyfraddau goroesi blwyddyn ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ganser wedi gostwng rhwng 2019 a 2020, yn ôl yr ystadegau swyddogol diweddaraf.  

Canfu Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cyfraddau goroesi canser am flwyddyn ar gyfer yr holl ganserau gyda'i gilydd wedi gostwng o 75.9 y cant yn 2019 i 71.6 y cant yn 2020. Cyn y pandemig, roedd cyfraddau goroesi am flwyddyn ar gyfer yr holl ganserau gyda'i gilydd wedi cynyddu o 66.2 y cant yn 2002 i'r uchafbwynt yn 2019. Roedd y cyfraddau goroesi pum mlynedd wedi cynyddu o 51.7 y cant yn 2002 i 63.0 y cant yn 2017. 

Mae'n debygol bod y gostyngiad diweddar hwn o ran goroesi am flwyddyn yn rhannol oherwydd y tarfu a achoswyd gan fesurau a weithredwyd i reoli lledaeniad feirws Cvid-19, gan ddechrau yn gynnar yn 2020. Credir y gallai rhai o'r mesurau hyn fod wedi cyfrannu at oedi wrth geisio gofal iechyd, ymchwiliadau, a rhai mathau o driniaeth.  

Mae goroesiad yn lleihau wrth i'r cam diagnosis ddatblygu ar gyfer pob math o ganser. Er enghraifft, mae mwy na hanner y bobl sy'n cael diagnosis o ganser y coluddyn yn cyflwyno ar y camau diweddaraf, sef tri a phedwar. Nid oedd goroesiad pum mlynedd o ganser y coluddyn wedi gwella cyn y pandemig, gyda'r goroesiad pum mlynedd ar gam pedwar yn parhau'n llai na 10 y cant yn ystod 2013 i 2017 a 2015 i 2019. Yn y cyfamser, roedd goroesiad pum mlynedd ar gam tri wedi gostwng o 67 y cant i 64 y cant yn ystod yr un cyfnod. Fodd bynnag, mae goroesiad canser y coluddyn ar gam un yn uchel iawn, er bod hyn wedi gostwng ychydig o 97 y cant i 95 y cant yn ystod yr un cyfnod cyn y pandemig. Dim ond 16 y cant o achosion newydd gafodd diagnosis ar gam un yn 2019. 

Ar gyfer y cyhoeddiad hwn, gwnaeth WCISU welliannau i'w dulliau i ddarparu amcangyfrif mwy cywir ar draws gwahanol lefelau o amddifadedd ardal. Roedd y bwlch goroesi pum mlynedd ehangaf ar gyfer pobl â chanser y rhefr a gafodd ddiagnosis rhwng 2016 a 2020, sef 47.2 y cant yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf o gymharu â 70.1 y cant yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf yng Nghymru. Mae'r bwlch hwn wedi ehangu tua deg pwynt canran dros y degawd diwethaf. 

Yn ogystal, mae amcangyfrifon goroesi deng mlynedd wedi'u paratoi am y tro cyntaf. Ar gyfer pob canser wedi'i gyfuno, cynyddodd hyn o 50.2 y cant rhwng 2002 a 2006 i 58.9 y cant mewn canserau a gafodd ddiagnosis rhwng 2012 a 2016. 

Meddai'r Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith glir ar ddiagnosis a thriniaeth canser yng Nghymru yn enwedig yn ystod camau cynnar y pandemig pan ailgyfeiriwyd gwasanaethau'r GIG i ymdrin â rheoli'r achosion. Rydym yn gwybod hefyd bod amharodrwydd dealladwy gan lawer o bobl i geisio cymorth GIG Cymru yn sgil negeseuon i ‘aros gartref’, yn enwedig ymhlith pobl hŷn a phobl a oedd yn gwarchod. Byddai'r ffactorau hyn wedi effeithio ar gyfraddau goroesi canser. 

"Mae'n bwysig gofyn am gyngor gan eich meddyg teulu ynghylch unrhyw symptomau rydych yn pryderu amdanynt cyn gynted â phosibl. Mae ein data'n dangos, po gynharaf y mae'r canser yn cael diagnosis, y gorau yw siawns person o gael canlyniad gwell.”