Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn penodi Cyfarwyddwr Anweithredol newydd i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cyhoeddwyd: 9 Awst 2022

Mae Cyfarwyddwr Anweithredol (NED) newydd wedi'i benodi i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cafodd Nick Elliott ei benodi i'r Bwrdd yn wreiddiol am gyfnod byr ym mis Mai 2022 ond ers hynny mae wedi'i benodi, drwy'r Broses Penodiadau Cyhoeddus, am dymor llawn hyd at 31 Awst 2026. 

Fel aelod Anweithredol o'r Bwrdd, bydd Nick yn gweithio ochr yn ochr â Chyfarwyddwyr Anweithredol a Gweithredol fel rhan o'n bwrdd unedol, ac yn helpu i ddatblygu a llywio cyfeiriad strategol a diwylliant sefydliadol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am y Bwrdd yma.

 

Daw Nick â chyfoeth o brofiad o'r sector cyhoeddus a phreifat.  Fel y CIO lefel Bwrdd cyntaf yn GIG Lloegr, arloesodd arsylwadau electronig a dyfeisiau symudol wrth ymyl y gwely.  Pontiodd yn llwyddiannus i Brif Swyddog Gweithredu yn y sector ysbyty, gan drawsnewid y perfformiad mewn nifer o ymddiriedolaethau'r GIG drwy ddod â phobl a data at ei gilydd. Daw â thros 15 mlynedd o brofiad lefel Bwrdd yn GIG Lloegr yn ogystal â phrofiad gweithgynhyrchu blaenorol. Yn dilyn ei amser yn y GIG, prynodd i mewn i gwmni apiau clinigol arloesol a thyfu'r cwmni a'i werthu i ddarparwr EPR mawr yn y DU.  Symudodd Nick i ymgynghori fel partner mewn un o ymgyngoriaethau arweiniol y DU ym maes Iechyd Digidol lle bu'n cynghori Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ar strategaethau a modelau gweithredu.  

 

Mae Nick bellach yn gweithredu o'i ymgynghoriaeth ei hun gan gynorthwyo arloeswyr gofal iechyd a rhoi cyngor strategol i Fyrddau'r GIG, rhaglenni trawsnewid mawr a chyflwyno adolygiadau sefydliadol.  

Ar ôl dechrau ei yrfa fel dadansoddwr mae Nick yn dal yn angerddol am ddefnyddio data er mwyn helpu i ysgogi gwelliannau ym maes iechyd a gofal. 

 

“Mae'n anrhydedd i mi gael fy newis yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'u pobl anhygoel.” Meddai Nick 

“Mae'r weledigaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wirioneddol drawiadol a gobeithio y gallaf chwarae rhan fach wrth eu helpu i wireddu eu huchelgais ar gyfer pobl Cymru.” 

Meddai Jan Williams, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Mae holl aelodau’r Bwrdd yn ymuno â mi wrth longyfarch Nick ac estyn croeso cynnes iawn iddo i Iechyd Cyhoeddus Cymru. Daw â chyfoeth o brofiad digidol/TG ac arbenigedd a fydd yn amhrisiadwy, wrth i ni ystyried bwrw ymlaen â datblygiadau digidol strategol fel rhan o'n hadolygiad Strategaeth Hirdymor. Mae gan Nick hefyd brofiad sylweddol ar draws ehangder cyfrifoldebau lefel Bwrdd, ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn y blynyddoedd i ddod”.