Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos 46: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Cyhoeddwyd: 26 Chwefror 2021

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dyma'r canfyddiadau allweddol: 

  • dywedodd 90 y cant o bobl naill ai y byddent am gael brechiad coronafeirws (60 y cant) neu eu bod eisoes wedi cael un (30 y cant); dywedodd 8 y cant na fyddent am gael brechiad ac roedd 2 y cant yn ansicr.   
  • dywedodd 18 y cant o bobl eu bod yn ‘bryderus iawn’ y gallent gael coronafeirws; i lawr o 26 y cant yn wythnos ddiwethaf yr arolwg.
  • dywedodd 72 y cant o bobl y byddent yn hapus i dderbyn lefelau isel o'r coronafeirws yn y gymuned pe bai'n golygu y gallem ddychwelyd i'n ffordd arferol o fyw.
  • dywedodd 61 y cant o bobl â phlant yn eu haelwyd eu bod, yn y 7 diwrnod diwethaf, wedi bod yn pryderu ‘llawer’ am lesiant eu plant.
  • dywedodd 48 y cant o bobl fod eu hiechyd meddwl yn waeth nawr nag yr oedd yr adeg hon y llynedd; sy'n cyfateb i bron 1.2 miliwn o oedolion.

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 15 i 21 Chwefror 2021, pan gafodd 600 o bobl eu holi.

Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.