Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos 42: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dyma'r canfyddiadau allweddol: 

  • mae 65 y cant o bobl yn credu bod manteision cyfyngiadau symud cenedlaethol o ran lleihau'r coronafeirws yn drech na'u costau; mae 35 y cant yn credu bod y costau o ran llesiant a'r economi yn drech na'r manteision.
  • dywedodd 93 y cant o bobl eu bod yn deall y cyfyngiadau symud presennol sydd ar waith yng Nghymru naill ai'n eithaf da (40 y cant) neu'n dda iawn (53 y cant)
  • yn ôl 81 y cant o bobl, ar wahân i'r bobl yn eu haelwyd eu hunain neu swigen gymorth a ganiateir, yn y 7 diwrnod diwethaf nid oedd unrhyw un arall wedi dod i mewn i'w cartref.
  • dywedodd 87 y cant o bobl nad oeddent wedi mynd i mewn i gartref rhywun arall yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, heb gynnwys swigen gymorth a ganiateir.

O'i gymharu â'r adeg hon y llynedd:

  • mae 26 y cant yn dweud eu bod yn fwy pryderus am newid yn yr hinsawdd; mae 6 y cant yn dweud eu bod yn llai pryderus am hyn.
  • mae 28 y cant o bobl yn dweud bod eu perthnasoedd teuluol wedi gwaethygu; mae 13 y cant yn dweud eu bod wedi gwella.
  • mae 31 y cant o bobl yn dweud bod eu hiechyd deintyddol wedi gwaethygu; mae 3 y cant yn dweud ei fod wedi gwella.

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 18 i 24 Ionawr 2021, pan gafodd 602 o bobl eu holi.

Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.