Neidio i'r prif gynnwy

Sŵn drwm... mae'n amser ar gyfer y prif wobrau i gydnabod cydweithwyr ac ymgyrchoedd

Cyhoeddwyd: 7 Gorfennaf 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw ar ei staff i sicrhau bod cydweithwyr ac ymgyrchoedd sydd wedi mynd y filltir ychwanegol yn cael eu cydnabyddiaeth briodol yng Ngwobrau Arloesi mewn Iechyd Cyhoeddus 2022. Mae'r gwobrau, sydd bellach yn eu pedwaredd flwyddyn, yn cael eu trefnu drwy Gofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU (UKPHR) ac maent yn gyfle i ymarferwyr a'u cydweithwyr a chyflogwyr ledled y DU i ddathlu eu cyflawniadau a chael cydnabyddiaeth am eu gwaith yn gwella iechyd cyhoeddus a lleihau anghydraddoldebau. 

Mae'r tîm trefnu bellach yn gofyn am geisiadau, ac mae gennych tan 28 Gorffennaf 2022 i'w cyflwyno.

Mae chwe chategori gwobrwyo, sef:

  1. Cydweithio
  2. Gwella ymarfer iechyd cyhoeddus i blant a phobl ifanc
  3. Troi tystiolaeth yn arfer – gwobr Allison Thorpe
  4. Y fenter ddigidol arloesol orau
  5. Ymgyrch orau'r cyfryngau cymdeithasol
  6. Cyflogwr eithriadol y flwyddyn

Meddai Dr Meng Khaw, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi dangos timau iechyd cyhoeddus yng Nghymru ar eu gorau o dan y craffu agosaf. Mae pob tîm wedi gwneud gwaith anhygoel. Ac ar ôl yr holl waith caled hwnnw byddai'n wych gweld yr ymdrech honno'n cael ei chydnabod yn y gwobrau hyn.

“Byddwn yn annog pob aelod o staff i feddwl am gymryd rhan yn y gwobrau hyn i fynd ati o ddifrif i ddathlu'r hyn sydd wedi'i gyflawni. 

“Mae cydweithio wedi bod yn uchel ar yr agenda oherwydd y pandemig, ond mae gweithio da mewn partneriaeth yn ymwneud â mwy nag ymateb unigol, mae'n hanfodol ym mhob maes iechyd cyhoeddus, llesiant a chael gwared ar anghydraddoldebau. Felly, rydym hefyd yn falch iawn o fod yn noddi'r wobr cydweithio.”

Cynhelir y seremoni wobrwyo yn ystod y Gynhadledd Ymarferwyr Iechyd Cyhoeddus rithwir ar 5 Hydref 2022.

Mae'r wobr cydweithio yn cael ei noddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

I gael manylion llawnach ynghylch pwy sy'n gallu cymryd rhan a'r meini prawf beirniadu cliciwch yma:

2022 UKPHR Awards Information Sheet

Mae Cofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU (UKPHR) yn rheoleiddiwr annibynnol, penodedig ar gyfer gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol yn y Deyrnas Unedig, gan ddarparu rheoleiddio proffesiynol i arbenigwyr iechyd cyhoeddus, cofrestryddion arbenigol ac ymarferwyr o amrywiaeth o gefndiroedd, y mae gan bob un ohonynt graidd cyffredin o wybodaeth, a sgiliau.