Neidio i'r prif gynnwy

Sgrinio Serfigol Cymru yn cyhoeddi estyniad i'r bwlch sgrinio

Cyhoeddwyd: 4 Ionawr 2022

Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn ymestyn y bwlch sgrinio arferol i bobl â cheg y groth rhwng 25 a 49 oed o dair i bum mlynedd, os na cheir feirws papiloma dynol (HPV) yn eu prawf ceg y groth.  

Mae hyn yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn 2019, gan ddod â'r cyngor ar gyfer y grŵp oedran hwn yn unol â'r bwlch sgrinio ar gyfer y rhai 50-64 oed.  

Daeth y newid hwn i rym ar 1 Ionawr 2022 ac mae'n golygu y bydd llythyrau canlyniad a anfonir o'r dyddiad hwn yn cynghori derbynwyr y bydd eu hapwyntiad nesaf yn dilyn mewn pum mlynedd, os bydd amodau penodol yn berthnasol.  

Cafodd profion HPV eu cyflwyno'n llwyddiannus yng Nghymru yn 2018 ac mae bron 9 o bob 10 o ganlyniadau yn dangos dim HPV risg uchel.  

Heather Lewis, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Sgrinio Serfigol Cymru sy'n esbonio: “Mae'r prawf HPV a ddefnyddiwn yng Nghymru yn awr yn fwy effeithiol o ran nodi pobl sy'n wynebu risg uwch o ddatblygu newidiadau celloedd sy'n gallu achosi canser ceg y groth.  

“Mae'r dystiolaeth yn dangos ei bod felly'n ddiogel ymestyn yr amser rhwng profion sgrinio serfigol i bobl nad oes ganddynt HPV wedi’u nodi.” 

Mae HPV yn feirws cyffredin iawn y bydd y rhan fwyaf o bobl yn dod i gysylltiad ag ef ar ryw adeg yn ystod eu bywydau. Mae un neu ragor o fathau risg uchel o HPV yn bresennol mewn dros 99.8% o ganserau ceg y groth. 

Meddai Louise Dunk, Pennaeth Rhaglen Sgrinio Serfigol Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Bydd profi pawb sy'n mynd i gael prawf sgrinio serfigol gan ddefnyddio prawf ar gyfer HPV risg uchel yn nodi'r rhai sy'n wynebu risg ac yn atal mwy o ganserau na dim ond archwilio'r celloedd yn unig. 

“Mae’n ddatblygiad cadarnhaol iawn y bydd y prawf mwy effeithiol hwn yn golygu bod pobl sydd â cheg y groth, sy'n profi'n negyddol am HPV, bellach dim ond yn gorfod mynd i gael eu prawf bob pum mlynedd, yn hytrach na bob tair blynedd. 

“Gallai mynd i'ch apwyntiad sgrinio achub eich bywyd. Drwy wneud apwyntiad mae gennych gyfle i atal canser ceg y groth rhag datblygu, neu ei nodi ar gam cynharach pan fo'n haws ei drin.” 

Mae tua 160 o achosion o ganser ceg y groth yn cael diagnosis bob blwyddyn yng Nghymru a dyma'r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod o dan 35 oed. 

Gellir trin newidiadau celloedd a geir drwy sgrinio serfigol rheolaidd er mwyn atal canser rhag datblygu.  

Nid yw sgrinio yn brawf ar gyfer canser, ond weithiau mae'r prawf yn nodi canserau cynnar. Mae'n haws trin canserau ceg y groth a ganfyddir yn gynnar. 

Mae gan y rhaglen sgrinio serfigol dri phrif nod:  

  • Lleihau nifer yr achosion o ganser ceg y groth (mynychder) drwy nodi newidiadau yn y celloedd cyn iddynt droi'n ganser 

  • Lleihau nifer y marwolaethau o ganser ceg y groth (marwolaethau) drwy atal canser rhag datblygu, neu ei nodi ar gam cynnar 

  • Lleihau effeithiau canser neu driniaethau canser ar iechyd (afiachedd) drwy atal canser rhag datblygu, neu ei nodi ar gam cynnar pan fydd yn llawer haws ei drin 

I gael rhagor o wybodaeth am sgrinio serfigol a HPV, ewch i Sgrinio Serfigol Cymru