Neidio i'r prif gynnwy

Mwy na 99% o fabanod newydd-anedig yn cael eu sgrinio am glefydau difrifol

Rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2019, cafodd 31,048 o fabanod newydd-anedig yng Nghymru eu profi am gyflyrau meddygol difrifol ond prin. Mae'r ffigur, fel y'i manylir yn yr adroddiad blynyddol diweddaraf gan Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru, yn cynrychioli 99.5% o'r babanod cymwys yng Nghymru.

Mae'r rhaglen sgrinio, a reolir gan Adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnig i bob baban cymwys, ar ddiwrnod pump o fywyd, sgrinio am y clefydau prin ond difrifol canlynol fel yr argymhellir gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU:

  • Isthyroidedd cynhenid (CHT)
  • Ffeibrosis systig
  • Anhwylderau metabolig etifeddol (IMD):
    • Diffygiant dehydrogenas asyl-CoA cadwyn ganolig (MCADD)
    • Ffenylcetonwria (PKU)
    • Clefyd wrin surop masarn (MSUD)
    • Asidemia isofalerig (IVA)
    • Asidwria glwtarig teip 1 (GA1)
    • Homosystinwria (HCU)
  • Anhwylderau crymangelloedd (SCD) 

Cynhelir y prawf drwy gymryd sampl bach o waed o sawdl y baban ar ddiwrnod pump ei fywyd.
Yna caiff y sampl ei sgrinio ar gyfer clefydau prin ond difrifol sy’n ymateb i ymyriad cynnar i leihau marwolaeth a/neu afiachusrwydd o'r clefyd.

Yn y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad, nododd y rhaglen 55 o achosion o gyflyrau difrifol gan gynnwys ffenylcetonwria, ffeibrosis systig, isthyroidedd cynhenid, clefyd wrin swrop masarn ac anhwylderau crymangelloedd.

Meddai Ruth Lawler, Pennaeth Sgrinio Mamau a Phlant, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae'n braf iawn gweld bod y nifer sy'n manteision ar y prawf yn parhau i fod mor uchel yng Nghymru. 

“Ni fydd gan y rhan fwyaf o'r babanod a sgriniwyd unrhyw rai o'r cyflyrau. Fodd bynnag, ar gyfer y nifer bach sydd â'r cyflyrau, mae sgrinio'n golygu y  gallant gael gofal a thriniaeth arbenigol cynnar sy'n gallu gwella eu hiechyd ac atal anabledd difrifol neu hyd yn oed farwolaeth.”

 “Gall darpar rieni gael rhagor o wybodaeth am y prawf a'r cyflyrau sy'n cael eu sgrinio a sut y mae'r sampl yn cael ei chymryd drwy siarad â'u bydwraig neu drwy ddarllen y daflen wybodaeth am sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig. Mae'r daflen hon ar gael i fenywod yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl yr enedigaeth a gellir ei lawrlwytho hefyd o wefan Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru”.   

Mae Adroddiad Blynyddol Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru 2018/19 ar gael yn llawn ar-lein yma: 

Adroddiad

Adroddiad Blynyddol Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru 2018 - 19

I  gael rhagor o wybodaeth am Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru ewch i: www.newbornbloodspotscreening.wales.nhs.uk/