Neidio i'r prif gynnwy

Mae strategaethau i atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn hanfodol, yn ôl llawlyfr newydd i weithwyr proffesiynol.

Cyhoeddig: 9 Tachwedd 2023

Mae tîm o ymchwilwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu llawlyfr i arwain gweithwyr proffesiynol a sefydliadau ar sut i weithredu gwaith i atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE).  Gan gydweithio â Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd a Phrifysgol Lerpwl John Moores gwnaethant ddatblygu'r canllaw i helpu gweithwyr proffesiynol i weithredu er mwyn meithrin cadernid mewn plant, a datblygu sefydliadau, sectorau a systemau sy'n cael eu llywio gan drawma. 

Mae ACE yn cynnwys camarfer plant  (fel cam-drin corfforol, emosiynol neu rywiol) a phrofiadau eraill llawn straen o fewn 18 mlynedd gyntaf bywyd, fel dod i gysylltiad â thrais teuluol a thrais gan bartner agos neu gam-drin sylweddau gan rieni a'r rhai sy'n rhoi gofal. Mae gan y profiadau hyn y potensial i newid ymennydd a systemau biolegol sy'n datblygu ymhlith plant a gall gael effeithiau niweidiol ar draws y cwrs bywyd. Felly, mae mynd i'r afael ag ACE a lleihau'r baich ar unigolion, teuluoedd a'r gymdeithas ehangach yn hanfodol. 

Mae'r llawlyfr yn dwyn ynghyd dystiolaeth, adnoddau ac astudiaethau achos o bob rhan o Ewrop ac yn rhyngwladol. Yn ogystal â thynnu sylw at strategaethau a gwybodaeth am atal ACE, meithrin cydnerthedd a datblygu systemau sy'n cael eu llywio gan drawma, mae'n cyflwyno cyfres o gamau y gellir eu defnyddio i roi strategaethau ar waith. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  1. Asesu'r sefyllfa bresennol a chasglu data 

  1. Codi ymwybyddiaeth, cael ymrwymiad, ac eirioli dros newid 

  1. Datblygu gweithio mewn partneriaeth 

  1. Dewis, addasu, neu ddatblygu ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac adnoddau 

  1. Darparu hyfforddiant, cymorth, a diwylliant ar gyfer newid 

  1. Gwerthuso camau gweithredu,  

  1. Cynyddu, sefydlu, a chynnal camau gweithredu effeithiol.  

Mae astudiaethau achos o bob rhan o'r byd, gan gynnwys Cymru, Montenegro, y Ffindir ac Iwerddon yn darparu enghreifftiau o sut y mae'r camau hyn wedi'u gweithredu'n ymarferol.  

Gall ACE gael effaith gorfforol a seicolegol uniongyrchol ar blentyn, ond gall hefyd gynyddu'r risg o broblemau ymddygiadol, iechyd a chymdeithasol hwyrach sy'n effeithio ar unigolion, cymunedau, cymdeithasau, ac iechyd a gwasanaethau eraill. Mae'r llawlyfr yn pwysleisio pwysigrwydd sefydliadau yn cydweithio i ddeall sut y gallant weithredu i atal ACE rhag digwydd a meithrin cydnerthedd pobl i leihau eu heffeithiau. 

Meddai ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Sara Wood “Gwerth ein llawlyfr yw helpu gweithwyr proffesiynol i symud o wybodaeth am ACE i weithredu. Drwy ddod ag adnoddau presennol ynghyd mewn un lle a chynnwys profiadau bywyd go iawn arbenigwyr sy'n ymwneud â'r gweithredu, rydym yn gobeithio bod y llawlyfr yn cynnig ysbrydoliaeth ac arweiniad i'r rhai sy'n gweithio yn y maes.”  

Fydd gweminar i lansio'r llawlyfr ar ddydd Mawrth 14 Tachwedd am 9.30-11.00 GMT, neu 10.30-12.00 CEST. I gofrestru cliciwch yma.