Neidio i'r prif gynnwy

Mae profion a thriniaeth gymunedol yn allweddol i ymdrechion byd-eang i ddileu hep c

 

Cyhoeddwyd: 4 Awst 2022 

Gallai profi a thrin cleifion am hepatitis c pan maent yn cael triniaeth methadon fod yn allweddol i gyflawni'r targed byd-eang o ddileu'r clefyd erbyn 2030, yn ôl ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Dundee. 

Canfu'r astudiaeth fod profion hepatitis c a gyflwynir gan nyrsys mewn fferyllfeydd cymunedol yn gwneud triniaeth yn fwy hygyrch a gwellhad yn fwy tebygol, o'i gymharu â gofal confensiynol, i bobl sy'n defnyddio cyffuriau. Canfuwyd bod y model yn addas iawn i fferyllfeydd llai ac mae'n strategaeth bwysig ar gyfer ymgysylltu â'r grŵp hwn o gleifion agored i niwed. 

Meddai Prif Ymchwilydd Cymru Dr Brendan Healy, Ymgynghorydd Microbioleg a Chlefydau Heintus Iechyd Cyhoeddus Cymru:   

“Mae Hepatitis C yn un o brif achosion clefyd yr afu ac mae cael opsiynau strategaethau a phrofion ychwanegol yn golygu y gellir sgrinio mwy o gleifion a chael triniaeth i gyfyngu ar y niwed hwn. 

“Mae dod â'r prawf i'r claf yn y sefyllfaoedd hyn yn fwy buddiol na disgwyl i'r claf geisio'r prawf eu hunain ac roedd yr astudiaeth yn gallu dangos mantais cynnig profion mewn amgylchedd y mae'r claf yn gyfforddus ag ef, gan weithio ochr yn ochr â fferyllydd y mae ganddo berthynas ag ef.   

“Mae trin a dileu hepatitis C yn dda ar gyfer yr unigolyn ond hefyd i'r gymdeithas gyfan oherwydd bod y driniaeth yn gost effeithiol iawn, mae'n lleihau pwysau ar y GIG o gymhlethdodau haint, yn diogelu adnoddau prin (fel gofal ysbyty a thrawsblaniad yr afu) a hefyd yn lleihau'r risg o drosglwyddo'r haint.” 

Mae Hepatitis c yn llid yr afu a achosir gan feirws a gludir yn y gwaed sy'n cael ei drosglwyddo'n gyffredin drwy chwistrellu cyffuriau. Heb ei drin, mae'n achosi caledwch yr afu a chanser. Mae 56 miliwn o bobl wedi'u heintio'n fyd-eang, gyda 1.5 miliwn o achosion newydd a 290,000 o farwolaethau bob blwyddyn. 

Gyda phrofion diagnostig hynod gywir a thriniaeth effeithlon mae mwy na 95% o achosion wedi'u gwella bellach, ac mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi pennu targed i ddileu hepatitis c fel bygythiad iechyd cyhoeddus erbyn 2030. 

Meddai Dr Christopher Byrne, o ysgol feddygaeth Prifysgol Dundee: 

“Mae'r dulliau ar gyfer dileu hepatitis C fel bygythiad iechyd cyhoeddus yn hysbys yn fras. Fodd bynnag, mae ymchwil ddiweddar wedi awgrymu y gellir methu cyflawni targed 2030 yn sgil tagfeydd o ran cysylltu â gofal ar gyfer grwpiau cleifion allweddol yr effeithir arnynt, fel pobl sy'n defnyddio cyffuriau. 

“Ein hastudiaeth yw'r gyntaf i weithredu profion pwynt gofal dan arweiniad nyrsys – gyda'r canlyniadau ar gael ar yr un diwrnod – a thriniaeth ar gyfer hepatitis c mewn fferyllfeydd cymunedol. Gall gweithredu modelau gofal sy'n dod â phrofion a thriniaeth hepatitis c i leoliadau a ddefnyddir yn aml gan bobl sy'n defnyddio cyffuriau helpu i leihau'r rhwystrau i ymgysylltu â gofal iechyd, sy'n cael ei ddangos gan ganlyniadau'r treial. 

 

“Newydd-deb yr ymchwil hon yw ei bod yn darparu tystiolaeth bod ymgysylltu ag unigolion sy'n wynebu risg uchel a'u gwella o haint yn ymarferol ac yn ddiogel mewn fferyllfeydd cymunedol, a phrin yw'r angen am ymweliadau ychwanegol ag ysbytai, ac y gall fferyllwyr cymunedol chwarae rôl bwysig o ran gofal hepatitis c.” 

Nod yr astudiaeth oedd deall a yw defnyddio nyrsys i ddarparu profion pwynt gofal ar gyfer hepatitis c mewn fferyllfeydd cymunedol wedi arwain at fwy o bobl sy'n derbyn methadon a therapïau amnewid opioid eraill yn cyflawni gwellhad o'i gymharu â gofal confensiynol. 

Er mwyn gwneud hyn, cafodd 40 o fferyllfeydd yng Nghymru, yr Alban ac Awstralia eu pennu ar hap i naill ai'r llwybr newydd neu ofal confensiynol. Y sail resymegol oedd bod angen dybryd i symleiddio llwybrau gofal ar gyfer hepatitis c i gael gwared ar y feirws fel bygythiad iechyd cyhoeddus, ac mae fferyllfeydd yn cynnig llwybr syml a chyfarwydd i ymgysylltu â gofal iechyd i bobl sy'n defnyddio cyffuriau. 

Parhaodd Dr Byrne, “Gyda llai na deng mlynedd ar ôl i gyflawni targed Sefydliad Iechyd y Byd o ddileu hepatitis c fel bygythiad iechyd cyhoeddus, mae angen ymdrechion sylweddol i wella diagnosis a thriniaeth o'r feirws ymhlith grwpiau cleifion allweddol yr effeithir arnynt, fel pobl sy'n defnyddio cyffuriau. 

“Wrth i wneuthurwyr polisi a chomisiynwyr gwasanaethau iechyd werthuso eu hymdrechion dileu hyd yma ac ystyried y trywydd presennol tuag at dargedau 2030, mae'r astudiaeth hon yn darparu dull defnyddiol ychwanegol o wella canlyniadau hepatitis c i bobl sy'n defnyddio cyffuriau.” 

Mae'r ymchwil yn cael ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn Ailmentary Pharmacology and Therapeutics a dyfarnwyd iddi'r wobr ymchwil glinigol arobryn yng nghyfarfod Rhwydwaith Rhyngwladol ar Hepatitis ac Iechyd mewn Defnyddwyr Sylweddau (INHSU) 2021, cynhadledd nodedig yn y maes. 

Cynhaliwyd y treial gan Uned Treialon Clinigol Tayside, mewn cydweithrediad â Sefydliad Burnet Melbourne ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd ei gyllido gan AbbVie, a wnaeth hefyd ddarparu meddyginiaeth ar gyfer y treial, gyda chymorth gan Genedrive PLC, a oedd yn cyflenwi'r dyfeisiau diagnostig pwynt gofal. 

https://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/apt.16953