Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynnydd treth ar fwydydd sy'n ddwys mewn egni a thybaco yn lleihau anghydraddoldeb iechyd

Cyhoeddig: 10 Hydref 2023

Mae adolygiad o dystiolaeth ryngwladol ar sut i leihau anghydraddoldebau mewn iechyd wedi canfod bod cynnydd treth ar dybaco a bwydydd egni uchel, gyda chymorthdaliadau ar ffrwythau a llysiau, yn gweithio'n dda i leihau bylchau mewn iechyd rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf.  

Er bod anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes iach wedi parhau'n sefydlog, mae'r bwlch o ran pa mor hir y gall rhywun ddisgwyl byw rhwng y poblogaethau lleiaf a mwyaf difreintiedig yng Nghymru wedi bod yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar gyfer dynion a menywod. Mae'r aelwydydd tlotaf hefyd yn cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw ac mae hyn yn ehangu'r bylchau ymhellach rhwng y rhai sydd â'r iechyd gorau a'r iechyd gwaethaf. 

Ceisiodd yr adroddiad Nodi Tystiolaeth i Gynorthwyo Camau Gweithredu i Leihau Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol mewn Iechyd, a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i gynnal gan Brifysgol John Moores Lerpwl, ddeall y bwlch hwn yn well. 

Nododd yr adroddiad feysydd allweddol lle mae tystiolaeth yn dangos bod camau gweithredu yn cael effeithiau cadarnhaol ar anghydraddoldebau iechyd ac mae'r rhain yn cynnwys:  

  • Cynnydd pris/treth ar dybaco a bwydydd dwysedd egni uchel a chymorthdaliadau ar ffrwythau a llysiau, ynghyd â pholisïau di-fwg cynhwysfawr. 

  • Targedu help a gwybodaeth tuag at bobl mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol isel, er enghraifft cynorthwyo â llywio'r system gofal iechyd, addysg rhieni, a hyrwyddo bwydo ar y fron. 

  • Rhaglenni cymhorthdal bwyd a gwella cyflwr tai.  

Meddai Sara Wood, ymchwilydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd rhwng yr amddifadedd lleiaf a'r mwyaf yn her allweddol i iechyd cyhoeddus. Drwy nodi'r camau gweithredu a all wella canlyniadau iechyd i grwpiau economaidd-gymdeithasol isel, gall yr adroddiad gwerthfawr hwn helpu i lywio gwaith yn y dyfodol i greu Cymru decach ac iachach.”