Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen mwy o ymwybyddiaeth i gymryd y cam N.E.S.A. i drin strôc ac achub bywydau.

Cyhoeddwyd: 27 Ebrill 2023

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn annog pobl i ymgyfarwyddo â symptomau strôc, un o'r achosion mwyaf o farwolaeth yng Nghymru. Mae triniaeth feddygol gynnar ar gyfer strôc nid yn unig yn achub bywydau, mae'n cynyddu'r cyfle o wella hefyd. Mae'r ymgyrch Cam N.E.S.A. yn lansio ledled Cymru heddiw (27 Ebrill) i atgoffa pobl am symptomau strôc a phwysigrwydd cael cymorth meddygol brys. 

Strôc yw pumed achos arweiniol unigol marwolaeth yng Nghymru a'r achos unigol mwyaf o anabledd cymhleth. Mae oedi o ran cael triniaeth ar gyfer strôc yn lladd celloedd yr ymennydd ac yn anffodus gall fod yn angheuol. Dyna pam mae'n bwysig cymryd y cam N.E.S.A.

  • Nam ar yr wyneb - a yw'r wyneb wedi syrthio ar un ochr? Ydyn nhw'n gallu gwenu?
  • Estyn – Ydvn nhw'n gallu estyn y ddwy fraich uwch eu pen a'u cadw yno?
  • Siarad – ydvn nhw'n cael trafferth siarad? 
  • Amser – hyd yn oed os nad ydych yn siŵr, ffoniwch 999.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu ymgyrch ddwyieithog genedlaethol i'w chynnal ar draws teledu, radio a'r cyfryngau cymdeithasol drwy gydol mis Ebrill a mis Mai 2023. 
Goroeswr strôc, astudiaeth achos. Cafodd Fran, 49 oed, o Bentre'r Eglwys ym Mhontypridd strôc ym mis Mawrth 2022. Dihunodd y fam i dri o blant yng nghanol y nos ond nid oedd ganddi syniad ei bod yn profi symptomau cyntaf strôc. 

“Dihunais ac roedd fy wyneb yn teimlo'n rhyfedd, yfais ddiod ac roedd yn diferu i lawr fy wyneb ond ni feddyliais ddim amdano. Roeddwn yn credu fy mod wedi blino felly es i yn ôl i gysgu gan nad oedden eisiau bod yn ddramatig a tharfu ar fy ngŵr a'm plant. Ar ôl dihuno yn y bore, es i lawr stâr. Ceisiais siarad â fy ngŵr, ond ni ddaeth unrhyw eiriau allan. Ceisiais siarad cwpwl o weithiau ond yna fe es i banig. Roedd ofn arnaf ac nid oedd gennyf syniad beth oedd yn digwydd i mi.” 

Nid oedd gan dri o blant y Rheolwr Gwasanaethau syniad am strôc na'r prawf NESA. Meddai ei mab 14 oed Macsen,

“Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd strôc na beth oedd y symptomau cyn i fy mam gael strôc. Rwy'n gwybod nawr mor bwysig ydyw i gymryd y cam NESA a gwybod am holl arwyddion y strôc. Dylai mwy o bobl wybod y dylent ffonio 999 a mynd i'r ysbyty cyn gynted ag y gallant.” 

Mae'r strôc wedi gadael Fran ag affasia, sy'n effeithio ar ei chyfathrebu a hefyd yn golygu ei bod wedi blino.

Meddai Shakeel Ahmad, yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Strôc:

“Am bob munud y mae strôc yn cael ei gadael heb ei thrin, mae hyd at 2 miliwn o gelloedd yr ymennydd yn marw, felly mae'n bwysig cymryd y cam NESA. Gall wneud gwahaniaeth sylweddol i'r siawns y bydd rhywun yn goroesi yn ogystal â gwella eu hadferiad a'u hailsefydlu.”

Meddai Katie Chappelle, Swyddog Cyswllt Cymru,

“Bob 5 munud, bydd rhywun yn y DU yn cael strôc. Mae strôc yn lladd miloedd ar filoedd ac yn gadael eraill ag anabledd cymhleth a difrifol bob blwyddyn. Cymryd y cam NESA yw'r peth mwyaf y gallwch ei wneud i achub bywyd. Cyn gynted ag y gwelwch unrhyw rai o arwyddion strôc ynddoch chi neu rywun arall, mae angen i chi ffonio 999. Mae trin strôc fach gyda'r un brys â strôc yn hanfodol hefyd. Os gwelwch unrhyw rai o'r arwyddion hyn, hyd yn oed am gyfnod byr, mae'n bwysig eich bod yn gweithredu.

Y llynedd gwelsom filoedd o bobl a oedd yn amau eu bod wedi cael strôc yn gwrthod ffonio 999 oherwydd ofn dal COVID-19 neu bod yn faich ar y GIG. Gallai pobl bellach fod yn byw gydag anabledd mwy difrifol nag y byddent fel arall oherwydd eu bod wedi oedi cyn ffonio 999. Dyna pam mae angen i chi wybod bod cymryd y cam NESA a ffonio 999 yn achub bywydau.”